Newyddion S4C

‘Siom’ am gyflwr stryd yng Nghaerdydd ar ôl ymgyrch i’w hachub

17/07/2023
Cilgant Guildford

Mae cynghorwyr wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig” am gyflwr stryd yng Nghaerdydd ar ôl ymgyrch i’w hachub.

Roedd ymgyrchwyr wedi gobeithio atal datblygiad ar Gilgant Guildford cyn i gyngor y ddinas roi sêl bendith i adeiladu tŵr 30 llawr yno ym mis Tachwedd 2021.

Roedd 20,000 wedi arwyddo deiseb yn erbyn cynlluniau i chwalu adeiladau o’r 19eg ganrif gan gynnwys tafarn Gwdihŵ.

Ond bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach mae’r stryd wedi ei gorchuddio gyda sgaffaldiau ond does dim golwg o’r adeilad yn codi y tu ôl iddi.

Dywedodd y datblygwr Galliford Try eu bod nhw’n obeithiol y bydd y gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos.

Ond dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver sy’n cynrychioli ward Cathays bod yr oedi yn siomedig.

“Roedden ni wedi gwrthwynebu'r datblygiad ond yn anffodus doedden ni ddim yn llwyddiannus,” meddai mewn datganiad ar ran cynghorwyr eraill Cathays.

“Ry’n ni’n siomedig gyda chyflwr y stryd fel y mae ar hyn o bryd ac yn gobeithio y bydd y problemau sydd wedi achosi’r oedi yn cael eu datrys.

“Mae Cilgant Guildford yn rhan bwysig o ganol y ddinas a dyw ei gyflwr presennol ddim yn dda i unrhyw un.”

Dywedodd ei fod ef a chynghorwyr eraill yn cydnabod bod y “gyllideb drychinebus” gan Lywodraeth y DU'r llynedd wedi achosi “poen economaidd”.

‘Ychwanegu’

Dywedodd y datblygwyr Galliford Try bod y prosiect wedi ei oedi o ganlyniad i “ddigwyddiadau economaidd cenedlaethol a rhyngwladol”.

“Yn ogystal fel datblygwr cyfrifol rydan ni wedi ail-gynllunio'r adeilad er mwyn gwella’r diogelwch gan ychwanegu grisiau newydd cyn cyflwyno gofynion diogelwch newydd, ac mae hynny wedi arwain at oedi pellach,” meddai.

Fe wnaeth y cyngor roi sêl bendith i’r newidiadau yng nghynllun yr adeilad fis diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.