
Cau fferyllfa mewn pentref prysur yn Eryri yn ‘bryder ofnadwy’
Mae’r penderfyniad i gau fferyllfa ym mhentref Llanberis yn peri “pryder ofnadwy” i bobl sy'n byw gerllaw ac ymwelwyr, meddai cynghorydd.
Yn ôl perchnogion fferyllfa Rowlands yn Llanberis, bydd y fferyllfa yn cau ddiwedd mis Medi gan “nad oes digon o bobol” yn ei defnyddio bellach.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Kim Jones, cynghorydd sir y pentref mai dim ond drwy weithwyr y fferyllfa daeth pobl i wybod am y penderfyniad i gau.
“Mae rhai o’r staff sy’n gweithio yna wedi bod yna ers blynyddoedd," meddai.
“Dwi’n teimlo yn ofnadwy o bryderus i fod yn onest achos mae o yn mynd i gael effaith sylweddol ar bobl hŷn, pobl fregus a phobl sydd methu dal y bws i Gaernarfon i gael moddion a phresgripsiwn.”
Mae’r fferyllfa agosaf i Lanberis yng Nghaernarfon, sydd saith milltir o’r pentref sydd â phoblogaeth o tua 1,800 ac sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr a cherddwyr yn flynyddol hefyd.
“Dwi jyst yn poeni bydd y feddygfa methu dal y pwysau os mai nhw sydd yn rhoi'r gwasanaeth wedyn achos maen nhw dan bwysau yn barod,” meddai Ms Jones.
“Hefyd gan fod ni ar droed yr Wyddfa, mae’r fferyllfa wedi bod yn ofnadwy o handi i ymwelwyr a cherddwyr sydd wedi dioddef man anafiadau yn hytrach na mynd i’r feddygfa neu ysbyty Gwynedd. Mae o wedi bod yn lleihau pwysau ar wasanaethau eraill, a dwi yn pryderu bod ni yn mynd i golli huna yn gyfan gwbl.”
'Penderfyniad anodd'
Dywedodd llefarydd ar Rowlands Pharmacy eu bod nhw’n gwybod faint mae pobol yn gwerthfawrogi eu fferyllfa leol a’u bod nhw’n tristau bod y fferyllfa yn Llanberis ddim yn gynaliadwy bellach gan nad oes digon o bobol yn ei defnyddio ar gyfer eu hanghenion meddyginiaethol.
“Cyn gwneud y penderfyniad anodd hwn roedden ni wedi cael trafodaethau gyda’r Bwrdd Iechyd, sydd gan gyfrifoldeb statudol i sicrhau anghenion gofal feddyginiaethol y trigolion lleol yn cael eu cwrdd, a thrio dod o hyd i berchennog arall i gymryd contract y Fferyllfa."
“Yn anffodus, doedden ni methu dod o hyd i unrhyw un â diddordeb. Byddan ni’n parhau i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod cleifion yn cael cyngor ynglŷn â’r opsiynau amgen cyn i’r fferyllfa gau.”

'Cyfrifoldeb'
Mae Kim Jones wedi cael cyfarfodydd gyda Chyngor Gwynedd i drafod y sefyllfa, ond ar hyn o bryd does dim cynlluniau i allu cadw’r fferyllfa ar agor.
Ychwanegodd: “Does yna ddim byd mewn lle ar hyn o bryd sydd yn hynod siomedig gan gofio bod hi’n bentref mawr sydd yn hynod o brysur gydag ymwelwyr heb sôn am anghenion pobl leol.
“A dwi’n ymwybodol mai busnes ydi Rowlands, felly allwn ni ddim neud dim am hynny ond dwi yn gobeithio gallith y bwrdd iechyd helpu i chwilio am brynwr lleol neu ddatrysiad i’r sefyllfa. Hyd yn oed os ydi o ryw fath o emergency hub dros dro nes bod 'na rwbath fwy swyddogol.
“Dwi jyst yn teimlo na fedrith gwasanaeth iechyd fel hyn ddim jyst gadel pentref fel Llanberis heb fynediad i bresgripsiwn. Ma’ rhaid i rywbeth fod mewn lle ac mae o yn gyfrifoldeb ar y gwasanaeth iechyd."
'Hyfyw'
Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Cawsom hysbysiad cau gan Rowlands Pharmacy Ltd yn Llanberis ar 30 Mehefin, 2023 a byddant yn cau ar 30 Medi, 2023.
“O dan y rheoliadau ni chaniateir i Fwrdd Iechyd redeg fferyllfa gymunedol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i archwilio pob llwybr sydd ar gael i helpu i sicrhau hyfywedd fferyllfa yn y dref.
“Mae’r ardal a wasanaethir gan y fferyllfa hefyd yn cael ei gwasanaethu gan nifer o bractisau meddygon teulu sydd â hawliau dosbarthu, a fyddai’n gallu cyflenwi meddyginiaethau i’w cleifion o’u fferyllfeydd.
"Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion sy’n byw yn yr ardal yn gallu cael eu presgripsiynau wedi’u dosbarthu ar ôl y cau drwy gydol yr wythnos.”