
Ysgol ar Ynys Môn wedi 'tynnu ynghyd' er mwyn helpu disgyblion o Wcráin i feistroli’r Gymraeg

Ysgol ar Ynys Môn wedi 'tynnu ynghyd' er mwyn helpu disgyblion o Wcráin i feistroli’r Gymraeg
Mae disgyblion mewn ysgol ar Ynys Môn wedi gwneud mwy o ymdrech i siarad Cymraeg er mwyn helpu plant o Wcráin i feistroli’r iaith, medd athrawes yno.
Daeth Natalia, 9 oed o Odesa, a Sofiia, 8 oed o Kryvyi Rih, i sylw Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd wrth iddyn nhw gwblhau cwrs mewn uned trochi iaith arbenigol ym Moelfre.
Cafodd y stori am eu gallu i siarad yr iaith wedi 12 wythnos yn unig sylw ledled y byd, gan gynnwys mewn gwledydd mor bell a Seland Newydd.
Mae eu cyd-Wcreiniad, Danylo, oedd hefyd yn yr uned iaith ym Moelfre, wedi dychwelyd i'w famwlad erbyn hyn.
Ond wrth barhau i setlo yng Nghymru, mae Sofiia a Natalia bron a gorffen tymor yr haf yn Ysgol Llanfairpwll, Ynys Môn, lle maen nhw wedi bod yn ddisgyblion ers mis Ionawr.
Mae'r ddwy bron yn rhugl yn y Gymraeg bellach, ac wrth eu boddau yn parhau i ddysgu'r iaith.
"Rydw i'n hoffi siarad Cymraeg, rydw i'n siarad Cymraeg yn yr ysgol ac efo ffrindiau," meddai Natalia.
"Dwi'n hoffi dysgu ieithoedd, mae'n braf."
Ychwanegodd Sofiia: "Dwi'n hoffi pob gair newydd - beth 'dwi ddim yn gwybod un diwrnod, mewn tri diwrnod dwi'n gwybod."
Roedd hoff air Natalia wedi gwneud dipyn o argraff ym mis Rhagfyr - felly ydy hi'n dal i hoffi'r un gair?
"Ydw," meddai. "Arch-farch-nad!"
"Rydw i'n hoffi mathemateg yn yr ysgol hefyd," ychwanegodd, "achos 'da chi'n defnyddio'r meddwl!"
Fel sy'n arferol gyda'r uned iaith lle cawson nhw eu gwersi cychwynnol, mae'r staff yn mynd allan i'r ysgolion yn ystod tymor yr haf i ddal fyny gyda'r disgyblion a rhoi gwersi ychwanegol.
"Rydw i'n hoffi dysgu Cymraeg efo Ms Owen," esbonia Sofiia. "Dwi efo Natalia yn darllen stori lleidr a gwneud llun o'n lleidr ni.

‘Manteision’
Ffion Hughes ydy eu hathrawes ac mae wedi dotio ar y ffordd mae’r dosbarth wedi tynnu ynghyd i’w helpu nhw.
"Maen nhw 'di setlo'n arbennig o dda," meddai. "Mae'n neis gweld y ddwy - bod nhw efo'i gilydd, bod ganddyn nhw gwmni'i gilydd.
“Ond hefyd mae'n arbennig gweld sut mae'r plant eraill wedi gwneud gymaint mwy o ymdrech i siarad Cymraeg ac i helpu nhw efo'r Gymraeg yn yr ysgol hefyd."
Mae Natalia a Sofiia hefyd wedi bod yn dysgu rhywfaint o Wcreineg i'r dosbarth.
Ychwanegodd Ms Hughes: "Da ni'n gofyn iddyn nhw pan mae'r tywydd, neu rhyw eirfa, a wedyn maen nhw'n licio dangos y gwahanol draddodiadau o'u gwlad nhw.
"Mae'n arbennig i'r plant weld, yn unig efo ieithoedd eraill, bod 'na ieithoedd eraill a pa mor bwysig ydy iaith i blentyn."
Mae'r athrawes drochi, Eira Owen, yn gweld datblygiad mawr - ac nid yn unig o ran y Gymraeg. Prin roeddan nhw'n gallu siarad Saesneg ddechrau'r flwyddyn ond maen nhw bellach yn siarad tair iaith yn rheolaidd.
Meddai: "Mae'n braf eu gweld nhw, yn arbennig y genod bach yma 'di bod drwy gymaint, dwi'n meddwl bod y cyswllt personol yna hefyd.
“O'dda nhw mewn grwp mor fychan ym Moelfre, mae'n braf a 'da ni'n mynwhau gweld ein gilydd a cael sesiwn efo grwp bach ohonan ni.
"Fel 'da chi'n gweld rwan, mae 'na dair iaith yn mynd ymlaen yma mewn oed cynradd. Buan iawn fydda' nhw'n rhugl mewn tair iaith - a hyd yn oed os wnawn nhw'm defnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol. mae'r manteision gwybyddol 'na yn anhygoel."
Mae'r genethod wedi setlo'n dda yn yr ysgol ac wedi bod yn rhan o weithgareddau fel gorymdaith Gwyl Ddewi, Eisteddfod yr Urdd a dysgu caneuon Cymraeg.
Dyma Sofiia, Natalia a Danylo - siaradwyr Cymraeg newydd 🏴 👋
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) December 15, 2022
Mae'r tri yn mynychu uned trochi'r Gymraeg ar Ynys Môn ar ôl ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.
Mwy yma 👉 https://t.co/OUOufsLWOv pic.twitter.com/sqEm1QZREL
‘Adra’
Mae'r hiraeth am eu mamwlad yn amlwg, er bod y ddwy ferch yn hapus ar Ynys Môn.
"Dwi'n hoffi byw yng Nghymru, mae'n neis efo'r natur, ond dwi'n colli Wcráin," esbonia Natalia.
"Mae gen i ffrindiau yna, mae gen i athrawes sy'n dysgu fi, mae gen i anifail anwes yna, mae gen i adra fi yna."
Ond mae Sofiia yn gweld manteision o fod yng Nghymru, yn enwedig ers i'w thad allu ymuno a'r teulu ym Mon.
"Yng Nghymru dwi'n gallu bod mwy efo Dad, efo Mam, efo'n chwaer, efo'n Nain, mwy efo'n gilydd. Mynd i'r parc, mynd am farbeciw," meddai.
"Ond dwi eisiau ysgol fel Llanfairpwll yn Wcráin."
Maen nhw bellach yn edrych ymlaen at y gwyliau haf, cyn dechrau blwyddyn ysgol arall ym mis Medi.