Y plant o Wcráin sydd wedi dysgu Cymraeg mewn 12 wythnos
Y plant o Wcráin sydd wedi dysgu Cymraeg mewn 12 wythnos
Maen nhw gannoedd o filltiroedd o gartref ac wedi gweld eu bywydau’n cael eu trawsnewid yn sgil y rhyfel yn eu gwlad eu hunain.
Ond mae grŵp o blant o Wcráin wedi cael croeso cynnes yn eu cymunedau ar Ynys Môn, ac maen nhw wedi bod yn dysgu Cymraeg wrth iddyn nhw setlo ar yr ynys.
Mae eu dealltwriaeth o’r iaith ymhen ychydig wythnosau yn unig wedi ei ddisgrifio’n “rhyfeddol” gyda’r siwrnai’n dod ag hapusrwydd ond dagrau hefyd wrth i’r plant ddweud wrth eu cyd-ddisgyblion am eu teuluoedd adref.
Mae Sofiia sy’n wyth oed, Natalia sy’n naw, a Danylo sy’n 11 wedi bod yn mynychu Uned Trochi’r Gymraeg arbenigol yn Ysgol Moelfre yn rhan ddeheuol yr ynys bob dydd ers mis Medi.
Nid yn unig maen nhw wedi cael hwyl yn dysgu iaith newydd, ond hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd ymhlith disgyblion a staff.
Dywed Sofiia, sydd o Kryvyi Rih – tref enedigol Arlywydd Volodymyr Zelensky – yn dweud ei bod wedi mwynhau bob agwedd o ddysgu’r iaith.
Mae’n dweud: “Rydw i’n hoffi ysgrifennu, darllen a dipyn bach o ganu. Rydw i’n siarad Cymraeg efo ffrindiau yn yr ysgol.”
'Wrth fy modd'
Bron yn rhugl ar ôl ond 11 wythnos, medd Natalia – sydd o Odessa, dinas sydd wedi dioddef y rhan helaeth o’r ymladd mwyaf ffyrnig: “Rydw i wrth fy modd efo Cymraeg.
"Rydw i’n dysgu anifeiliaid, gwisgo, tywydd, bwyta, ffrwythau. Rydw i eisiau dysgu Cymraeg achos mae’n helpu fi.”
Mae’n dweud mai ei hoff air Cymraeg yw’r gair “archfarchnad” oherwydd ei bod yn hoffi ei ynganiad gyddfol, sy’n rhoi gwen fawr ar ei hwyneb.
Mae Danylo o bentref o’r enw Bronytsia, yn rhanbarth Lviv ac yn dweud ei fod yn mwynhau siarad â’i ffrindiau yn Gymraeg.
“Rydw i’n hoffi chwarae pêl-droed efo ffrindiau, a dwi’n gwneud hynny yn Gymraeg,” meddai.
Mae gan Ynys Môn bolisi sy’n golygu bod holl ysgolion y sir yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae pob disgybl yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn 11 oed.
Er mwyn cael mynediad at addysg cyn hynny, mae’n rhaid bod gan blant rhyw ddealltwriaeth o’r iaith.
Mae gan yr ynys ddwy Uned Trochi’r Gymraeg i gefnogi disgyblion sy’n dod o’r tu allan i Gymru, un ym Moelfre – lle mae’r plant o Wcráin wedi bod yn ei mynychu, ac un arall yng Nghaergybi.
Unwaith mae eu cwrs 12-wythnos wedi ei gwblhau yn yr uned, maen nhw wedyn yn dychwelyd i’w ysgolion cynradd lleol ac yn gallu parhau â’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
'Tipyn o ddagrau'
Yn ôl Eira Owen, un o athrawon yr uned, mae’r plant wedi ymateb yn wych wrth ddysgu’r Gymraeg.
“Ma' plant yn wych, ond ma' 'na gyfnodau 'da chi'n gweld eu bod nhw yn bell ella,” meddai
“'Dan ni 'di colli dipyn o ddagrau yn ystod y tymor yn clywed hanesion o sut ma' nhw 'di ffoi. Ma' nhw'n sôn am dad, neu am gyfnither, neu gefnder sy' dal yn Wcráin, ac am deuluoedd sydd yn nyrsio a ballu yno, a sydd 'di methu ffoi.
Eglura Natalia ei bod hi’n aml yn drist pan mae’n meddwl am ei theulu adref yn Wcráin.
“Rydw i’n drist iawn – mae gen i gefnder a chyfnither yn Wcráin. Cyfnither fach o’r enw Nastia a cefnder mawr o’r enw Jarosláv. Dwi’n drist achos dydw i ddim yn Wcráin dros Nadolig – ond rydw i’n saff yng Nghymru,” meddai.
'Anhygoel'
Dywed Nesta Davies, prif athrawes yr unedau iaith ar Ynys Môn bod gweld taith iaith y plant yn “anhygoel”.
“Ma' gweld y daith mewn 12 wythnos yn anhygoel,” meddai.
“'Sa 'na rhywun yn gofyn i fi ddysgu iaith mewn 12 wythnos, fyswn i ddim yn medru, a ma'r plant bach 'ma fel sbwnges yn amsugno bob un dim.”
Ond hoffai sicrhau bod unedau iaith fel y ddwy yma ar Ynys Môn yn cael eu hariannu’n gyson o flwyddyn i flwyddyn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ein hariannu gyda grantiau’n ddiweddar, ac rydym wedi bod yn ffodus iawn yma ar yr ynys. Ond byddai’n braf i gael y sefydlogrwydd o wybod bod yr arian yn gyson, yn hytrach na gweithio o un flwyddyn i’r llall.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i anelu tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a’u bod yn parhau i fuddsoddi yn yr iaith Gymraeg, “gan gynnwys £6.6m o addewid i ddarpariaeth trochi tan ddiwedd y tymor Senedd hwn”.
Ychwanegodd y llefarydd: “Mae ein hagwedd tuag at drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru.
"Mae Awdurdodau Lleol yn penderfynu sut i ddefnyddio’r arian maen nhw’n ei dderbyn.
"Mae Cyngor Ynys Môn wedi derbyn £310,000 i ariannu parhad eu darpariaeth trochi hwyr dros y tair blynedd nesaf, a fydd yn ariannu dau athro trochi hwyr arbenigol.”