Mwy yn derbyn diagnosis o gonorea, clamydia a syffilis yng Nghymru
Mae nifer y bobl sydd wedi derbyn diagnosis o haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yng Nghymru wedi cynyddu yn dilyn mynediad ehangach at brofion.
Yn ôl adroddiad diweddaraf ar iechyd rhywiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cynnydd “nodedig” wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi derbyn diagnosis o gonorea, clamydia a syffilis.
Daw yn sgil mynediad ehangach at brofion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fel rhan o wasanaeth profi drwy’r post.
Mae’r gwasanaeth yn galluogi unigolion i gynnal profion eu hunain yn eu cartref, yn hytrach nag ymweld â chlinigau iechyd rhywiol.
Bu’n wasanaeth poblogaidd ymysg grwpiau oedran iau rhwng 15-34, gyda rhan fwyaf o achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn cael eu canfod yn y grwpiau yma.
Dywedodd Josie Smith, sef Uwch-epidemiolegydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Ry'n ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy'n cael profion drwy'r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru ymhlith grwpiau oedran iau.
“Fodd bynnag, mae'r un mor berthnasol a phwysig i bobl hŷn.
“Mae profion drwy'r post am ddim, ac ar gael i unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed a throsodd a dangoswyd eu bod yn dderbyniol iawn, gan arwain at nodi nifer uwch o heintiau.
“Bellach mae gyda ni ddarlun cliriach o nifer yr heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru, a bydd y wybodaeth hon yn helpu i ddatblygu gwasanaethau."
‘Profi’
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unigolion sy’n cael rhyw heb gondom gyda phartneriaid newydd neu achlysurol i gael eu profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn flynyddol.
Bu’r corff yn annog pobl i gael eu sgrinio ar gyfer HIV fel rhan o’r prawf, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n dioddef o unrhyw symptomau.
Mae achosion newydd o heintiau HIV wedi parhau i ostwng dros y degawd diwethaf. Roedd 60 diagnosis newydd yn 2022, sef gostyngiad o 56.5% yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Yn ogystal â ffigyrau ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, mae’r Adroddiad Blynyddol Iechyd Rhywiol yng Nghymru 2023 yn cynnwys data ar unigolion sy'n derbyn dull atal cenhedlu brys a rhai hirdymor mae modd rhoi'r gorau i'w defnyddio, yn ogystal â data ar derfynu beichiogrwydd ar gyfer rhai byrddau iechyd.
Roedd nifer yr unigolion sy'n derbyn dull atal cenhedlu y mae modd rhoi'r gorau i'w defnyddio – gan gynnwys dyfais mewngroth (IUD/IUS), mewnblannu neu bigiad – mewn clinigau iechyd rhywiol wedi gostwng 6% yn 2022 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ychwanegodd Ms Smith: “Hoffen ni achub ar y cyfle hwn i atgoffa pobl y gallant gael mynediad at brofion, condomau am ddim a dulliau atal cenhedlu brys drwy lwybrau amrywiol yng Nghymru.”