Cabinet yn pleidleisio i gau ysgol leiaf Gwynedd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cau’r ysgol leiaf yn y sir.
Gydag wyth disgybl yn unig mae Ysgol Felinwnda, yn Llanwnda ar gyrion Caernarfon, wedi’i ddisgrifio fel “ysgol i deulu,” medd un rhiant ar eu gwefan.
Ond brynhawn Mawrth fe gafodd rhybudd statudol swyddogol ei gyhoeddi i gau’r ysgol yn dilyn penderfyniad unfrydol y cabinet.
Yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion, nid oedd yn rhaid i Gyngor Gwynedd gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i gau'r ysgol, a hynny oherwydd bod llai na 10 o ddisgyblion yn ei mynychu.
Bydd gan drigolion lleol fis i gofnodi eu gwrthwynebiad ffurfiol i benderfyniad y cyngor, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol i gael ei wneud yn yr hydref.
Bwriad y cyngor yw cau’r ysgol yn swyddogol ar 31 Rhagfyr 2023.
‘Sefyllfa drist’
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y cynghorydd lleol dros ward Llanwnda, Huw Rowlands, ei bod yn “sefyllfa drist” i sawl un yn y gymuned, ond bod rhaid dod i hyd o “falens.”
Dywedodd: "Mae heddiw’n ddiwrnod trist i gymuned Ysgol Felinwnda, wrth i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cychwyn y broses statudol o’i chau.
"Am 128 o flynyddoedd gwasanaethodd y gymuned yn ffyddlon, drwy gynnig addysg dda mewn amgylchedd gyfeillgar a diogel.
"Dwi'n siŵr mai penderfyniad anodd oedd hyn i Gabinet Cyngor Gwynedd, a medraf ddeall y rhesymeg, sef fod niferoedd presennol yr ysgol mor fychan a rhagamcanion y dyfodol yn fregus.
"Mae hyn a heriau eraill yn ei gwneud hi'n sialens i fedru darparu addysg yn y ffordd fwyaf buddiol i’r plant, yn enwedig efo dyfodiad y Cwricwlwm i Gymru," meddai.
Gostwng
Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Felinwnda wedi parhau i ostwng dros y blynyddoedd, meddai’r cyngor.
Ar hyn o bryd, mae'r disgyblion yn cael eu rhannu'n ddau ddosbarth rhwng dau athro.
Mae'r cyngor hefyd wedi dweud fod disgwyl i nifer y disgyblion ostwng ymhellach o’r wyth sydd yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, i bump erbyn Medi 2024, ac yna i dri'r flwyddyn ganlynol.
Roedd 31 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Felinwnda yn 2012.
Mae cost y pen pob disgybl yn £14,643, i gymharu â’r cyfartaledd sirol sef £4,509.
Ychwanegodd y cynghorydd Mr Rowlands: "Bydd yna gyfle i wrthwynebu yn ystod mis Medi a Hydref fel rhan o'r broses statudol.
"Os wedi hynny, cau bydd y penderfyniad terfynol, mawr hyderaf y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio os oes angen lliniaru unrhyw effaith ar y gymuned."
Byddai’r wyth disgybl presennol yn cael y dewis o drosglwyddo i ysgolion cyfagos ym mhentrefi Bontnewydd neu Llandwrog.
Llun o Ysgol Felinwnda (Eric Jones/Wikimedia Commons).