Cyfres yn datgelu manylion newydd am ymgyrch Meibion Glyndŵr

08/07/2023
Meibion Glyndwr

Bydd cyfres ddogfen teledu a phodlediad newydd yn datgelu manylion newydd am y tanau bwriadol yng Nghymru a ddechreuodd yn 1979.

Fe fydd y podlediad Cymraeg newydd, Gwreichion, yn edyrch ar y cyfnod lle roedd dros 200 o ymosodiadau bomiau tân ar dai haf a busnesau.

Mae'r BBC hefyd wedi cynhyrchu cyfres ddogfen dwy ran, Firebombers, fydd yn cael ei darlledu ar BBC One Wales ac iPlayer.

Mewn cyfweliad ecsgliwsif ar raglen Firebombers, mae Roberts yn datgelu manylion newydd am ei weithgaredd â Meibion Glyndŵr a'r ymgyrch fomio.

Sion Aubrey Roberts, a gafwyd yn euog o fod â ffrwydron yn ei feddiant ac o anfon dyfeisiadau tanio drwy’r post yw’r unig berson i’w gael yn euog sydd wedi cyfaddef iddo fod yn aelod o Meibion ​​Glyndŵr.

Mewn cyfweliad ecsgliwsif, mae Roberts yn datgelu manylion newydd am ei weithgaredd â Meibion ​​Glyndŵr a'r ymgyrch fomio.

Ioan Wyn Evans fydd yn cyflwyno’r gyfres newydd, Gwreichion. Dywedodd taw nod y gyfres yw i ddarganfod straeon a lleisiau cudd o amgylch y cyfnod dadleuol hwn.

Dywedodd Ioan, “Beth sy’n syndod ac yn ddifyr iawn yw pa mor fyw mae atgofion pobl o’r cyfnod a’r manylion maen nhw’n ei gofio.

"Roedd yr ymchwil hefyd yn ddiddorol - er enghraifft, roedd gallu dod o hyd i un o’r diffoddwyr wnaeth ymateb i’r tanau yn Sir Benfro ar noson gynta’r ymgyrch yn hynod gyffrous.

"Ro’n i’n teimlo’n freintiedig iawn i glywed ei sylwadau fel llygad dyst, gan nad oedd e erioed wedi siarad am y peth o’r blaen.”

Image
Gwreichion

'Ulw'

Yn rhan o’r gyfres, bydd gwylwyr yn clywed gan yr heddlu fu’n ymchwilio i’r achos, perchnogion yr eiddo gafodd ei dargedu a’r bobl a gafodd eu harestio.

Un cyn-heddwas fydd yn cyfrannu yw Kelvin Griffiths. 

Dywedodd: “Roedd o’n ddinistr llwyr. Gan bo nhw mor anghysbell, roedd y tai ma’n llosgi heb yn wybod i neb. Dim ond pan oedd rhywun yn gyrru heibio ac yn sylweddoli, ‘O, mae’r tŷ wedi cael ei losgi’n ulw.’ Doedd neb wedi ei weld.” 

Wedi'i chynhyrchu gan Zwwm Films, bydd pennod un o Firebombers yn cael ei darlledu ar BBC One Wales nos Iau 20 Gorffennaf am 9pm, gyda'r ail bennod wythnos yn ddiweddarach. Bydd y ddwy bennod ar gael ar BBC iPlayer o ddydd Iau 20 Gorffennaf ymlaen.

Bydd penodau un a dau o Gwreichion ar gael i'w lawrlwytho o ddydd Iau 20 Gorffennaf ymlaen ar BBC Sounds, gyda phenodau wythnosol i ddilyn bob dydd Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.