Artist ag awtistiaeth yn defnyddio celf i helpu plant yr ardal i 'fynegi eu hunain'
Artist ag awtistiaeth yn defnyddio celf i helpu plant yr ardal i 'fynegi eu hunain'
"Mae celf wedi bod yn big help, especially achos dwi yn autistic. Ac mae lot o blant autistic dwi’n gweithio efo, dyna sut dwi’n deall nhw yn iawn."
Mae un artist o Ben Llŷn wedi bod yn annog a helpu plant yr ardal i ddefnyddio celf i'w mynegi eu hunain.
Mae Cian Parry Owen, 31 oed sydd ag awtistiaeth yn artist poblogaidd sydd yn gwneud darluniau o wahanol ardaloedd, a'r rheini yng Nghymru'r mwyafrif o amser.
Fe wnaeth Cian ddechrau gwneud lluniau o oed ifanc iawn, ac mae bellach yn helpu plant eraill yn yr ardal i wneud yr un fath.
Dywedodd ei fod wedi ei helpu o i'w fynegi ei hun yn yr un modd pan oedd yn blentyn.
“O’n i’n neud lluniau stickmen ar awyren, pan o’n i tua pump, ac o’n i yn fandaleisio llyfrau plant fi, llyfrau darllen o'n i jyst yn rhoi stickmen arnyn nhw i gyd," meddai.
"Ac wedyn nes i ddechrau neud celf fel hobi.”
'Deall'
Yn ogystal a gweithio mewn siop fwyd lleol mae Cian yn gweithio yn agos gydag Ysgol Hafod Lon, ysgol sy’n darparu addysg i blant sydd gyda gwahanol anableddau ym Mhorthmadog.
“Dwi yn passenger assistant i ysgol Hafod Lon," meddai.
"So mae ‘na dacsi yn pigo fi fyny yn y bore a’r prynhawn pan mae’r plant yn mynd i’r ysgol. Dwi yna efo’r plant yn gwneud yn siŵr bod nhw’n gwisgo gwregys, entertanio nhw achos ma’ plant yn mynd yn bored yn y car. Felly dwi yna i gadw nhw yn saff.”
Mae Cian hefyd yn gwneud gweithdai celf gyda plant yr ardal, gan eu hannog nhw i fod yn greadigol.
“Mae lot o blant autistic dwi’n gweithio efo, dyna sut dwi’n deall nhw yn iawn," meddai.
“Mae 'na rhai plant yn gwybod bob dim am gyfrifiaduron yn chwech neu saith oed, dwi ddim yn gwybod dim am gyfrifiaduron ond ma’ pawb efo talent gwahanol ac mae celf yn un ohonyn nhw ac yn form of expression.
“Mae o yn ffordd i fi expressio fy hun hefyd, pan ma’ pobl yn dod i’r galeri dwi’n cael sgwrs fach efo nhw ond ma’ nhw yn sbïo ar y llunia a ma’r llun yn deud bob dim.”
Mae lluniau pawb yn wahanol hyd yn oed pan mae rhywun yn trio gwneud yr un steil.
'Prysur'
Mae Cian bellach wedi cwblhau cwrs celf yng ngholeg Dolgellau a mynychu Coleg Celf yng Nghaerdydd. Ond ers Covid-19 mae wedi dod i sylweddoli pwysigrwydd celf i’r meddwl hefyd yn hytrach na dim ond fel hobi.
“Pan waeth Covid hitio oedd o yn very dark times ac wedyn o’n i ddim yn gweithio yn Spar am flwyddyn achos o’n i yn ofn Covid i fod yn onest,” meddai.
“Nes i jyst ddechrau gwneud lluniau. Oedd o yn cadw fi’n brysur a ddim meddwl am bethau drwg oedd yn digwydd.
“Oedd neud y llunia ma’ wedi distractio fi o beth oedd yn mynd ymlaen online. O’n i’n postio nhw online achos oedd pobl ddim yn cael mynd i lefydd so oni mynd a nhw i lefydd drwy'r lluniau.”