Cyngor Sir Caerfyrddin yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn perchnogion gwesty i geiswyr lloches
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau achos cyfreithiol yn erbyn perchnogion gwesty yn Llanelli ynghylch newid defnydd y gwesty i gartrefu ceiswyr lloches.
Fis diwethaf, fe wnaeth y Swyddfa Gartref ddatgan ei bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn Ffwrnes ar gyfer hyd at 241 o geiswyr lloches.
Yn ôl y cynllun, fe fydd y gwesty yn cau i’r cyhoedd, gyda’r ceiswyr lloches gyntaf yn symud i mewn ar 10 Gorffennaf.
Mae’r cyngor wedi cadarnhau bellach ei fod yn dwyn achos cyfreithiol ynghylch newid “sylweddol” yn nefnydd y gwesty heb ganiatâd cynllunio.
Mae'r achos yn erbyn perchnogion y gwesty, Sterling Woodrow Limited a dau o gyfarwyddwyr y cwmni, Gareth Street a Robert Horwood, cyn perchnogion y gwesty Gryphon Leisure Limited, a Clearsprings Ready Homes Limited, cwmni sydd yn trefnu a darparu gwasanaethau preswyl ar ran Llywodraeth y DU.
Bydd yr achos yn destun gwrandawiad ar 7 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, ar y Strand yn Llundain.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn datganiad: “Nid yw'r Cyngor yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd yr angen i barchu'r broses gyfreithiol sydd ar waith.”
Mae’r cynllun wedi ei wrthwynebu gan rhai pobl leol, gyda phrotest wedi ei chynnal yn y dref ddiwedd mis Mehefin.
Ymhlith y rhesymau am y gwrthwynebiadau lleol mae pryderon am ddyfodol oddeutu 100 o swyddi yn y gwesty pedwar seren.
Daeth cadarnhad gan y cyngor wythnos diwethaf ei bod yn cynnig cymorth i staff y gwesty wrth iddyn nhw chwilio am swyddi newydd.