Bryn Fôn a'r Band yn cyhoeddi na fyddan nhw'n perfformio eto
Mae Bryn Fôn a'r Band wedi cadarnhau na fyddan nhw'n perfformio eto.
Roedd y band eisoes wedi cyhoeddi eu bod wedi gohirio pob gig o 1 Gorffennaf ymlaen, ond maen nhw bellach wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu chwarae eto.
Mewn datganiad dywedodd y band eu bod nhw'n dod i ben wedi i'r drymiwr Graham Land ddioddef strôc yn ddiweddar.
“Mae’n debyg eich bod wedi clywed y newyddion yn barod, sef nad yw gweddill y band am barhau i berfformio heb ein drymiwr rhadlon Graham (La) Land," meddai'r datganiad.
Diolchodd y band am yr holl gefnogaeth ar hyd y blynyddoedd, gan ddweud eu bod yn ffarwelio "gyda chalon drom".
"Diolch am deithio ar draws y wlad, ac ymhellach i’n gweld. Diolch am wario eich arian prin ar docynnau i gigs, a casets, cd’s, downloads, crysau T a phopeth arall," medden nhw.
"Diolch am gyd-ganu hefo ni ers 1993! Ia, deng mlynedd ar hugain! I le aeth y blynyddoedd? Da ni ‘di cael lot o hwyl hefo chi."
'Helpu'
Daw'r cyhoeddi wrth i ymgyrch i godi arian i gefnogi'r drymiwr Graham Land gyrraedd £10,000 ar ôl iddo ddioddef strôc.
Fe ddioddefodd Mr Land strôc ym mis Ebrill ac ers hynny mae wedi bod yn derbyn gofal mewn ysbyty.
Roedd wedi bod yn aelod o Bryn Fôn a’r Band ers canol y nawdegau gan recordio ar nifer o’i albymau mwyaf poblogaidd.
Sefydlodd Bryn Fôn dudalen JustGiving yn ddiweddar er mwyn codi arian i'w deulu, ac mae'r rhoddion bellach wedi cyrraedd dros £10,000.
Mewn neges ar y dudalen JustGiving, dywedodd Bryn Fôn: "Mae o yn gwella bob dydd, ond mae cyfnod hir o ffisiotherapi o’i flaen, ac yn amlwg ni fydd yn ôl yn drymio na dysgu drymio am sbel.
"Gan ei fod yn weithiwr llawrydd ni chaiff ddim cymorth ariannol gan y wladwriaeth. Felly mi fydd yn rhaid i ni ei ffrindiau ei helpu."
Mae Graham Land yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru gan ddrymio i nifer o fandiau dros y blynyddoedd, ac yn dysgu drymio hefyd.
Mae hefyd yn actor talentog. Chwaraeodd gymeriad Les yng nghyfres deledu boblogaidd Dal y Mellt ar S4C.
Llun: Bryn Fon a'r Band gan Phil Hen.