Newyddion S4C

Anhrefn Trelái: Chwe pherson arall wedi eu harestio

30/06/2023
Car ar dan yn Nhrelái.

Mae’r heddlu wedi arestio chwe pherson ychwanegol mewn cysylltiad â’r anrhefn yn Nhrelái fis diwethaf a ddilynodd marwolaethau dau fachgen yn eu harddegau.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn dilyn gwrthdrawiad ar ddydd Llun 22 Mai ar Ffordd Snowden.

Roedd "anhrefn difrifol" yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiad, gyda cheir yn cael eu rhoi ar dân ac eiddo yn cael ei difrodi.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio nifer o bobl yn ystod yr anrhefn.

Daeth cadarnhad ddydd Gwener eu bod wedi arestio chwe pherson arall dan amheuaeth o achosi terfysg – tri dyn 20, 25 a 35 oed, dwy ddynes 35 a 37 oed, a bachgen 16 oed.

Daw hyn â’r nifer o arestiadau yn dilyn y digwyddiad i 27.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ceri Hughes:  “Yn ystod yr anhrefn, fe gafodd cerbydau eu rhoi ar dân, fe gafodd eiddo eu difrodi, fe gafodd swyddogion heddlu eu hanafu ac roedd ofn ar drigolion yn eu cartrefi.

“Fel rhan o’r ymchwiliad hyd yn hyn, mae 432 darn o luniau o gamerâu corff y swyddogion heddlu wedi’u casglu, yn ogystal â sawl awr o fideos sydd wedi’u postio ar gyfryngau cymdeithasol, lluniau drôn, lluniau hofrennydd a lluniau o gamerâu cylch cyfyng.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y gymuned hyd yn hyn ac i aelodau’r cyhoedd sydd wedi darparu mwy na 70 o ymatebion gan ddefnyddio’r Porth Cyhoeddus Digwyddiad Mawr.”

Fe wnaeth y llu gyfeirio ei hun at yr IOPC sef y swyddfa annibynnol sy'n ymchwilio i ymddygiad yr heddlu, ar ôl y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.