Newyddion S4C

Gweinidog Iechyd yn bryderus o dwf amrywiolyn India

Newyddion S4C 30/05/2021

Gweinidog Iechyd yn bryderus o dwf amrywiolyn India

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa coronafeirws dros Glawdd Offa. 

Daw hyn ar ôl i ymchwil ddangos cynnydd mewn nifer o achosion o’r amrywiolyn a gafodd ei adnabod gyntaf yn India mewn rhannau o Loegr, megis Bedford, Blackburn a Bolton. 

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Eluned Morgan fod y llywodraeth yn pryderu am y clwstwr sydd wedi codi yn ardal Llandudno, ond yn sicrhau ei bod hi'n bosib cadw'n ddiogel drwy dderbyn y brechlyn yn erbyn Covid-19.

"'Chydig iawn o achosion sydd gyda ni ar hyn o bryd yng Nghymru, tua 57," dywedodd.

"Ond mae 'na grŵp arall nawr wedi codi yn ardal Llandudno, i ni'n poeni am hynny. Ond hyd yn hyn i ni'n gwybod o ble mae'r feirws wedi dod i ni'n teimlo nad yw hi yn symud tu fewn i'n cymunedau.

"Ni yn ymwybodol bod y sefyllfa yn debygol o newid yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

"Wrth gwrs i ni'n poeni, i ni'n edrych ar y sefyllfa tu hwnt i'n ffin ni yn Lloegr ac mae'n amlwg bod hwn yn amrywiolyn sydd yn lledaenu yn gyflym dros ben. Ond i ni hefyd yn gwybod bod e'n bosibl i ddiogelu'n hunain rhag yr amrywiolyn yma os bydd pobl yn cael y vaccine.”

Yn dilyn adroddiadau a oedd yn awgrymu bod y nifer sydd yn cadw at reolau Covid-19 wedi gostwng yng Nghymru, fe bwysleisiodd y Gweinidog nad oedd y pandemig ar ben.

"Mae pethau yn edrych yn dda iawn ond i ni’n aros am fwy o ddata ar yr amrywiolyn newydd yma cyn gwneud unrhyw benderfyniad,” ychwanegodd.

“Mae’n bwysig bod pobl yn dal i ddeall bod yr amrywiolyn newydd yma yn lledaenu’n gyflymach nag unrhyw amrywiolyn i ni wedi gweld o’r blaen ac felly i ni yn gofyn i bobl i ddilyn y canllawiau, i sicrhau bod nhw’n golchi dwylo, i sicrhau bod nhw’n cadw pellter ac yn parhau i wisgo mygydau.

"Dyma’r unig ffordd i ni yn mynd i stopio gweld y lledaeniad yma o’r amrywiolyn newydd o India.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.