Heddlu yn ymchwilio i farwolaethau dau o bobl ar stryd fawr yn y Rhondda

Heddlu.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaethau dau berson yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd yr heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans a diffoddwyr tân eu galw i Stryd Fawr yn y Cymer, Rhondda Cynon Taf am 10.05 fore Sul yn dilyn adroddiadau fod dau o bobl wedi marw yno.
Yn ôl WalesOnline, mae unigolyn wedi'u cludo i'r ysbyty.
Mae'r stryd wedi'i chau wrth i'r ymchwiliad barhau.