Arestio dros 600 o bobl yn dilyn mwy o brotestiadau treisgar dros nos yn Ffrainc
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi dweud y bydd yn cynnal cynhadledd ar frys ar ôl i dros 600 o bobl cael eu harestio ymysg rhagor o brotestiadau treisgar dros nos.
Fe ddaw’r protestiadau ledled Ffrainc wedi i fachgen 17 oed, sy’n cael ei enwi fel Nahel M, gael ei saethu ar ôl ceisio gyrru i ffwrdd oddi wrth heddlu oedd wedi ei stopio nos Fawrth.
Roedd fideo a gyhoeddwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos car melyn yn cael ei stopio gan yr heddlu, oedd â dryll, cyn ceisio gyrru i ffwrdd a bwrw'r palmant.
Mae'r protestiadau wedi parhau ers hynny a cafodd o leiaf 667 o bobl eu harestio nos Iau, yn ôl y Gweinidog Mewnol, Gérald Darmanin.
Ychwanegodd bod bron i 250 o swyddogion yr heddlu a'r gendarmes wedi eu hanafu dros nos.
Mewn neges a rhannodd ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd bod swyddogion yr heddlu a diffoddwyr tân wedi wynebu’r trais gyda dewrder.
Cette nuit, nos policiers, gendarmes et sapeurs-pompiers ont encore fait face, avec courage, à une rare violence.
— Gérald DARMANIN (@GDarmanin) June 30, 2023
Conformément à mes instructions de fermeté, ils ont procédé à 667 interpellations.
Mae’r heddwas a saethodd y bachgen yn marw pellach wedi’i gyhuddo o ddynladdiad gwirfoddol.
Dywedodd cyfreithiwr yr heddwas ar ei ran ei fod wedi ymddiheuro i’r teulu.
Lledaenu
Nos Iau oedd y trydedd noson o wrthdaro yn dilyn marwolaeth y bachgen, gyda channoedd ledled y wlad yn cymryd rhan mewn protestiadau treisgar.
Paris yw canolbwynt y gwrthdaro, gyda neuaddau tref, ysgolion a gorsafoedd heddlu yn cael eu targedu. Mae sawl fideo ar gyfryngau cymdeithasol hefyd yn dangos siop Nike yn cael ei thargedu.
Yn Nanterre, sef maestref ym Mharis lle saethwyd y bachgen, cafodd “dial dros Nahel” ei ysgrifennu ar sawl un adeilad. Roedd un briffordd wedi ei orchuddio gyda cherbydau wedi’u llosgi.
Ym Montreuil, sef dwyrain Paris, ymosododd grwpiau o bobl ifanc gyda batonau ar fferyllfa, McDonalds a siopau eraill. Fe wnaeth yr heddlu ymateb i’r trais gyda nwy dagrau, yn ôl adroddiadau lleol Le Monde.
Yn y ddinas Marseille cafodd rhagor o nwy ddagrau ei defnyddio i wasgaru hyd at 150 o bobl ar ôl i lyfrgell ei fandaleiddio.
Mae sawl un fideo arall ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos pwll nofio, a oedd yn cael ei adeiladu ar gyfer Gemau’r Olympaidd 2024 ym Mharis, ar dân yn Aubervilliers, sef maestrefi gogledd ddwyrain Paris.
Yn ôl y cyfryngau lleol, mae’r gwrthdaro wedi lledaenu tu hwnt i Ffrainc gan gyrraedd Brwsel, prifddinas gwlad Belg.
Dydd Mercher, cafodd taith er cof Nahel M ei arwain gan ei fam, Mounia.
Llun o Frigâd Ymchwil ac Ymyrraeth yn Nanterre (Préfecturede de Police).