Rhieni Mabli, 8 mis, a fu farw wedi gwrthdrawiad yn rhoi teyrnged iddi
Mae rhieni merch fach a fu farw ar ôl cael ei hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwyr tu allan i Ysbyty Llwynhelyg wedi rhoi teyrnged iddi.
Cafodd Mabli Cariad Hall, wyth mis oed, ei chludo i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste yn dilyn y gwrthdrawiad ar 21 Mehefin.
Bu farw fore Sul ym mreichiau ei rhieni, meddai ffrind i'r teulu.
Dywedodd ei rhieni Rob and Gwen Hall eu bod nhw wedi “torri eu calonnau” o ganlyniad i farwolaeth “ein merch brydferth Mabli”.
Roedden nhw’n “dotio arni” ac roedd hi wedi “dod a chymaint o lawenydd iddyn nhw yn ystod ei bywyd byr,” medden nhw.
“Mi wnawn ni gofio gwen fach brydferth Mabli am byth a thrysori ein hamser ni gyda hi,” medden nhw.
“Hoffen ni ddiolch i bawb geisiodd ein helpu ni yn ystod yr amser trasig hwn.
“Y bobl oedd yno pan ddigwyddodd, y gwasanaethau brys a ddaeth i’n helpu a’r gweithwyr anhygoel yn ysbytai Llwynhelyg, y Heath ac Ysbyty Plant Bryste.
“Roedd eu cefnogaeth a’u cryfder wedi caniatáu i ni ganolbwyntio’n llwyr ar Mabli.”