Y Brenin yn ymweld ag Auschwitz i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau’r carcharorion yno
Mae'r Brenin wedi ymweld ag Auschwitz ddydd Llun i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau’r carcharorion yno.
Fe wnaeth Charles III gwrdd ag Arlywydd Gwlad Pwyl Andrzej Duda a rhai o’r rheini a oroesodd erchyllterau’r Natsïaid.
Fe wnaeth y Natsïaid lofruddio chwe miliwn o Iddewon yn ystod hil-laddiad yr Holocost, ag Auschwitz oedd un o’r gwersylloedd crynhoi (concentration camps) amlycaf.
Roedd Tywysog Cymru hefyd yn rhan o ddigwyddiadau yn Llundain i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2025.
Fe ddaw wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig rybuddio y gallai erchyllter tebyg ddigwydd yn y dyfodol oni bai bod cymdeithas yn cynnal ei dyletswydd i wrthsefyll hynny.
“Roedd yr Holocost yn ymdrech ar y cyd gan filoedd o bobl gyffredin a gafodd eu llyncu’n llwyr gan gasineb gwahaniaethu ar sail hil,” meddai Syr Keir.
“Dyna’r casineb rydyn ni’n sefyll yn ei erbyn heddiw ac mae’n ymdrech ar y cyd i bob un ohonom ei drechu.
“Rhaid i ni ddechrau trwy gofio’r chwe miliwn o ddioddefwyr Iddewig a thrwy amddiffyn y gwir yn erbyn unrhyw un a fyddai’n gwadu hynny.”
Bydd Prif Weinidog Cymru yn mynychu seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru.
Fe wnaeth un o oroeswyr yr Holocost, Eva Clarke, a Safet Vukalić, un o oroeswyr yr hil-laddiad ym Mosnia, siarad yn y seremoni.
Roedd cynrychiolwyr o'r cymunedau Iddewig a Roma yn rhan o'r seremoni genedlaethol, yn ogystal â phobl anabl a phobl LHDTC+, a gafodd eu targedu hefyd yn ystod yr Holocost.
Am 8 p.m. ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost bydd adeiladau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys y Senedd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael eu goleuo mewn porffor.