'Miloedd yn rhagor' o ddysgwyr yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol
Bydd miloedd yn rhagor o ddysgwyr mewn colegau a chweched dosbarth yn gymwys i dderbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn y dyfodol meddai Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi penderfynu codi trothwyon incwm cartref ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) gan olygu y bydd mwy o deuluoedd yn gallu gwneud cais amdano.
Grant wythnosol yw’r LCA o £40, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd.
Daeth y LCA i ben yn Lloegr yn 2011, ac mae wedi cael ei gadw ar gyfradd is o £30 yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd, mae dros 16,000 o fyfyrwyr yng Nghymru yn derbyn LCA. Roedd hynny'n gwymp o 36,000 o fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 2010-11. Y rheswm am hyn oedd bod trothwy incwm y cartref ar gyfer derbyn y lwfans wedi ei rewi wrth i gyflogau godi.
Ond bydd 3 500 yn rhagor o ddysgwyr yn elwa arno o ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, meddai Llywodraeth Cymru.
Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yw £20,817 - bydd hyn yn cynyddu i £23,400, sy'n golygu y bydd teuluoedd ag incwm aelwyd o £23,400 neu lai yn gymwys i dderbyn y Lwfans.
Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol yw £23,077 a bydd hyn yn cynyddu i £25 974.
'Wedi gwrando'
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, bod Cymru “eisoes yn darparu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig”, a bod hyn yn golygu “y byddwn nawr yn cefnogi miloedd yn rhagor o ddysgwyr.”
“Rydym yn glir bod ein Cyllideb Ddrafft yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair ac mae'r newid hwn i feini prawf cymhwystra'r Lwfans yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn.” meddai.
“Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd miloedd yn rhagor o ddysgwyr nawr yn elwa ar gymorth ariannol pellach i barhau neu ddechrau ar eu taith addysg bellach."
Dywedodd Deio Owen, Llywydd UCM Cymru, eu bod yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog.
“Bydd codi trothwy incwm aelwydydd ar gyfer y Lwfans yn galluogi mwy na 3 500 yn rhagor o bobl ifanc i ystyried addysg ôl-16.”
Dyna 3500 o bobl ifanc a fydd, gobeithio, yn parhau â'u haddysg ac yn parhau i arfogi eu hunain ar gyfer dyfodol gwell", meddai.
"Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers peth amser, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi gwrando ar leisiau myfyrwyr.”
“Edrychaf ymlaen at gydweithio'n agosach â'r Gweinidog yn ystod y misoedd nesaf ar feysydd lle gallwn gryfhau'r cynnig i fyfyrwyr yng Nghymru ymhellach."