Teyrnged i 'galon ac enaid' clwb pêl-droed Drefach
Mae teyrnged wedi ei roi i chwaraewr, hyfforddwr ac aelod o bwyllgor clwb pêl-droed Drefach wedi iddo farw yn dilyn cyfnod o salwch.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd y clwb o Sir Gâr: “Cyhoeddwn gyda thristwch a gofid mawr fod arwr ein clwb Will Beynon wedi’n gadael neithiwr.”
Fe gafodd Mr Beynon ei ddisgrifio fel “calon ac enaid” clwb pêl-droed Drefach.
Ychwanegodd y datganiad: “Rydym wedi gweld ei ddewrder a'i gryfder wrth frwydro yn erbyn ei salwch dros y misoedd diwethaf, ac fel clwb rydym wedi torri’n calonnau wrth iddo farw.
“Mae ein colled yn fawr; mae ein galar yn ddwfn.”
'Cysga'n dawel'
Roedd Mr Beynon wedi siarad yn gyhoeddus am ei frwydr yn erbyn canser ac roedd yn cadw cofnod o’i brofiadau ar ei dudalen Instagram, @taithwill.
Fe gafodd y pêl droediwr ddiagnosis o Ewing Sarcoma, sef math prin o ganser yr asgwrn ym mis Mehefin 2021.
Cafodd wybod ei fod wedi gwella ym mis Mawrth 2022, ag yntau’n 22 oed.
Ond fe gafodd Mr Beynon ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn ddiweddarach. Fe wnaeth o siarad yn agored am ei driniaeth a’i frwydr yn erbyn canser wedi iddo ymledu.
Dywedodd clwb pêl-droed Drefach eu bod wedi canslo pob un o’u gemau ddydd Sadwrn “er parch i Will a’i deulu.”
“Mae ein meddyliau i gyd yn awr yn mynd at deulu Will ar yr adeg anodd hon,” meddai’r clwb.
“Cysga'n dawel Will.”