Profiad 'hunllefus' chwaraewr rygbi rhyngwladol mewn maes awyr ar ben draw'r byd

30/06/2023

Profiad 'hunllefus' chwaraewr rygbi rhyngwladol mewn maes awyr ar ben draw'r byd

Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi rhannu ei phrofiad "hunllefus" mewn maes awyr ar bendraw'r byd.

Roedd Molly Kelly, o Rosneigr ar Ynys Môn, yn teithio o faes awyr Manceinion i'r Weriniaeth Dominica gyda'i ffrind ddydd Llun.

Ar ôl i'r awyren gyrraedd maes awyr Punta Cana, cafodd bachwr Cymru a Sale Sharks ei hatal rhag cael mynediad i'r wlad, tra bod ei ffrind wedi cael ei dderbyn.

Roedd yr awdurdodau dan yr argraff bod Molly Kelly wedi bod i Colombia a wedi cael cofnod troseddol yno, a bu'n rhaid iddi hedfan yn syth adref.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod wedi gwario dros £3,000 ar y trip a'i bod hi ddim yn deall i ddechrau pam gafodd ei gwrthod.

"Geshi fy alw mewn i'r ystafell a o'dd neb di deutha fi ddim byd. Dim pishyn o wybodaeth rili," meddai.

"Ar ôl ugain munud o eistedd 'na yn clywad rhein yn siarad Sbaeneg ag yn gweiddi rili o gwmpas fi.

"O'n na tua chwech pobl yn dod mewn ac allan a wedyn o'dd na jyst dau berson yn investigatio fi ar wahan i be o'dd yn mynd ymlaen yn yr ystafell."

'Torri lawr'

Gofynnodd gweithwyr y maes awyr os yr oedd hi wedi teithio i Colombia yn y gorffennol. Ymatebodd Ms Kelly gan ddweud nad oedd hi wedi, a ni oedd yn bwriadu mynd yno chwaith.

Dywedodd y gweithwyr bod ganddyn nhw'r hawl i'w hatal rhag cael mynediad i'r wlad a bod hyn wedi digwydd gan fod rhybudd ar eu system ei bod wedi teithio i Colombia, er iddi honni nad oedd hi wedi teithio yno o'r blaen.

"Neshi ddeud 'have you got any more information?' a nathon nhw gofyn os oni 'di cael justice gyn Colombia.

"Oni 'tha na, dwi 'di deutha chi dwi erioed 'di bod i Colombia. Neshi basically jyst dorri lawr oni 'tha sa neb yn deutha ni ddim byd, sa neb yn deutha ni whatsoever, nothing.

"Nathon nhw trio ddeud bo' fi 'di bod mewn i Colombia, bo' fi 'di cael criminal record yn Colombia, bod Colombia wedyn 'di roid warnings allan i nhw."

Dychwelyd

Bu rhaid i Ms Kelly symud i'r gât lle'r oedd hi newydd lanio a hedfan yn ôl i faes awyr Manceinion.

Roedd hi yn ceisio cael gafael ar y Llysngenhadaeth Brydeinig ond doedd neb yn ateb, a doedd dim gweithwyr y maes awyr yn dweud pam nad oedd modd iddi gael mynediad i'r wlad.

"Gafon ni'n hel wedyn trwy'r aiport o baggage control allan i'r airfield a nathon ni goro cerdded hyd yr airfield 'cos bo' ni'm yn gael bod mewn yn yr airport, bod ni'm fod ar tir Dominican," meddai wrth Newyddion S4C

"A odda ni'n goro sefyll tu allan o'r gât o'dd yn mynd yn 'dôl ar y flight odda ni 'di cyrraedd ar."

Ers cyrraedd adref mae Molly Kelly wedi ceisio ffonio y Swyddfa Dramor, y Llysgenhadaeth Weriniaeth Dominicaidd yn Llundain a'r heddlu, ond does neb yn rhoi atebion iddi, meddai.

"Dwi 'di trio ffonio nhw, (Llysgenhadaeth Dominican yn Llundain), neshi wedyn gael pasio i'r British Embassy sy' yn Dominican, neshi drial ffonio nhw ond na," meddai.

"Nathon nhw wedi pasio fi 'mlaen i y Passport Office, nath nhw wedyn pasio fi 'mlaen i'r police. Neshi trio gael dal a'r police 101, nath o gymryd awr.

"So neshi deceidio mynd i Llangefni a jyst troi fyny yn y police station achos dyna'oll oni'n gallu neud.

"Ma' 'na fath o unknown territory shall we say ar y funud."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.