Newyddion S4C

‘Ein bachgen hyfryd’: Teyrngedau i Morgan Ridler fu farw o ganser prin

28/06/2023
Morgan Ridler

Mae teulu bachgen tair oed fu farw ar ôl diagnosis o ganser prin wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Morgan Ridler o Abertawe ddiagnosis o ganser cortecs y chwarren adrenal yn ddwy oed, a roedd yn derbyn gofal lliniarol yn Hosbis Tŷ Hafan.

Fe wnaeth ei deulu sefydlu elusen o’r enw Morgan’s Army Charitable Foundation, er mwyn rhoi cefnogaeth i deuluoedd plant yn ne Cymru sydd â chanser.

Daeth cadarnhad ar dudalen yr elusen fore Mercher am farwolaeth Morgan.

Mewn teyrnged ar Facebook, dywedodd ei deulu: “Fe gychwynnodd ein bachgen hyfryd ar ei antur fawr nesaf am 05.30 bore ‘ma. Roedd o’n heddychlon ac yn gyfforddus gyda’i deulu o’i gwmpas.

“Er y digwyddodd yn gyflymach na fyddwn ni fyth wedi gallu disgwyl, roedd Morgan mewn rheolaeth ar y diwedd un, yn gwybod ei fod yn ddiogel ac ein bod ni yna gyda fe.

“Dim mwy o boen rhagor, fe wnes di frwydro mor hir. Roeddet ti wastad yn gwenu, wastad yn chwerthin a wastad yn caru.

“Er fy mod i’n dymuno na fyddai hyn erioed wedi digwydd i ni, dw i’n gwybod ein bod ni yn bobl well am gael dy 'nabod a dy garu di. Ti wedi dysgu ni sut i garu fwy.

“Mi wyt ti wedi ysbrydoli mwy o gariad ynddon ni nag oeddwn i erioed yn teimlo’n bosib, mi wyt ti wedi cael dylanwad mor dda ac mi rydym yn ddiolchgar iawn ohonot ti.

“Ein Morgs. Ein Squishy.”

Mae Undeb Rygbi Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a rhanbarth rygbi’r Gweilch i gyd wedi rhoi teyrngedau i Morgan yn ogystal.

Dywedodd neges ar gyfryngau cymdeithasol gan CPD Abertawe: “Mae CPD Dinas Abertawe wedi tristáu o glywed am farwolaeth Morgan Ridler.

Cawsom y fraint o gael Morgan yn arwain ein tîm yn y gêm yn erbyn Caerdydd. Mae’r dewrder rwyt ti a dy deulu wedi dangos yn ysbrydoliaeth i ni gyd.

“Cwsg mewn hedd, Morgan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.