Cyhoeddi tîm newydd Plaid Cymru yn y Senedd

Plaid Cymru

Mae tîm newydd Plaid Cymru yn Senedd Cymru wedi cael ei gyhoeddi gan arweinydd newydd y blaid, Rhun ap Iorwerth.

Delyth Jewell sydd wedi'i phenodi'n Ddirprwy'r Senedd, a bydd yn dirprwyo dros faterion seneddol.

Mabon ap Gwynfor sydd yn cymryd awenau hen rôl Mr ap Iorwerth, sef y llefarydd ar iechyd a gofal, tra bydd Luke Fletcher yn llefarydd yr economi.

Mae'r cyn-ddirpwy arweinydd Sian Gwenllian yn "aelod dynodedig arweiniol" o ran y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. 

Bydd ffocws y blaid yn y Senedd yn "gadarn" ar faterion allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tai a chostau byw meddai'r arweinydd newydd.

Mae'r cyn-arweinydd Adam Price yn llefarydd ar gyfiawnder a materion Ewropeaidd.

Dyma'r tîm llawn:

  • Rhun ap Iorwerth - Aelod Dynodedig, cyfansoddiad
  • Delyth Jewell - Dirprwy Senedd, newid hinsawdd
  • Llyr Gruffydd - Cadeirydd y Grŵp, materion gwledig
  • Heledd Fychan - Rheolwr Busnes, addysg, y Gymraeg a diwylliant
  • Mabon ap Gwynfor - Prif chwip, iechyd, gofal cymdeithasol a thai
  • Adam Price - Cyfiawnder a materion Ewropeaidd
  • Peredur Owen Griffiths - Cyllid a llywodraeth leol
  • Sioned Williams - Cyfiawnder cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol
  • Luke Fletcher - Economi
  • Sian Gwenllian - Aelod Dynodedig Arweiniol
  • Cefin Campbell - Aelod Dynodedig

Llun: Plaid Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.