Newyddion S4C

Matt Hancock yn ymddiheuro am farwolaethau Covid-19 y pandemig

27/06/2023
Matt Hancock

Mae’r cyn Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi “ymddiheuro’n daer” wrth yr ymchwiliad cyhoeddus i Covid-19.

Dywedodd y dyn a oedd yn gyfrifol am yr ymateb Covid-19 yn Lloegr ac am rai agweddau o'r ymateb, fel archebu a dosbarthu brechlynnau, ar draws y Deyrnas Unedig bod y strategaeth o baratoi ar gyfer canlyniadau pandemig yn “hollol anghywir”.

“Nod y Deyrnas Unedig oedd paratoi ar gyfer canlyniadau trychineb,” meddai.

“Allwn ni brynu digon o fagiau corff? Ble ry’n ni'n mynd i gladdu'r meirw? Ac roedd hynny'n gwbl anghywir.

“Mae’n bwysig bod hynny yn ei le rhag ofn i chi fethu ag atal pandemig, ond mae angen gofyn sut ydych chi’n atal y trychineb rhag digwydd yn y lle cyntaf?

“Sut ydach chi'n atal y firws?"

Ychwanegodd ei fod yn "ddrwg iawn gen i am yr effaith a gafodd, mae’n ddrwg gen i am bob marwolaeth.

“A dwi hefyd yn deall pam, i rai, y bydd hi’n anodd derbyn ymddiheuriad o’r fath,” meddai.

“Ond mae’n ymddiheuriad gonest a thwymgalon, a dydw i ddim yn dda iawn am drafod fy emosiynau a sut ydw i’n teimlo.”

Dywedodd ei fod hefyd yn pryderu fod y systemau er mwyn goroesi pandemig Covid-19 eisoes yn cael eu “datgymalu”.

Dadansoddi

Mae ymchwiliad Covid-19, a gafodd ei sefydlu gan Boris Johnson ym mis Mai 2021, yn ymchwilio i’r modd y deliwyd â’r pandemig.

Bydd hefyd yn dadansoddi’r penderfyniadau gafodd eu gwneud yn San Steffan a’r gwledydd datganoledig, gan gynnwys Cymru.

Mae yn cael ei gadeirio gan y Farwnes Heather Hallett, barnwr sydd wedi ymddeol.

Mae disgwyl iddo gynnal gwrandawiadau cyhoeddus tan 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.