Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farolwaeth dyn yn Noc Penfro
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth dyn 27 oed ar Ffordd Laws yn Noc Penfro ddydd Sadwrn.
Cafwyd hyd i gorff y dyn am 3.00 bore dydd Sadwrn, 29 Mai.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi bod dau ddyn wedi'u harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd Ditectif Prif Arolygydd, Jonathan Rees, fod yr heddlu yn apelio am wybodaeth.
"Rydym yn deall bod presenoldeb mawr yr heddlu wedi achosi amhariad a phryderon i'r gymuned, ac rydym yn diolch iddyn nhw am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Rydym yn gofyn i unrhyw berson sydd â gwybodaeth fyddai'n helpu'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu, gyda'r cyfeirnod DP-20210529-054."
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, e-bostiwch 101@dyfed-powys.pnn.police.uk neu ffoniwch 07811 311 908.
Llun: Google