Siom i'r Elyrch yn Wembley
29/05/2021
Huw Evans Agency
Mae Abertawe wedi colli yn erbyn Brentford mewn gêm dyngedfennol yn Wembley.
Cafodd Yr Elyrch eu trechu o 2 - 0 yn erbyn Brentford, gan golli eu cyfle i ddychwelyd i'r Uwchgynghrair.
Fe deithiodd 11,689 o gefnogwyr i wylio'r gêm yn stadiwm Wembley ar ôl i'r EFL ychwanegu 2,000 o seddi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.
Daeth y gôl gyntaf i Brentford gan Ivan Toney wedi 10 munud, ac yna fe sgoriodd Emiliano Marcondes yr ail gôl 10 munud yn ddiweddarach.
Fe fydd Casnewydd yn teithio i Wembley i chwarae yn erbyn Morecambe ddydd Llun, ar ôl sicrhau eu lle yn y rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans