'Dim digon o gerddoriaeth ddawns yn Gymraeg', yn ôl yr artist Bendigaydfran

24/06/2023

'Dim digon o gerddoriaeth ddawns yn Gymraeg', yn ôl yr artist Bendigaydfran

Mae'r cerddor poblogaidd Bendigaydfran wedi dweud nad oes "digon o gerddoriaeth ddawns yn Gymraeg.”

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd y cerddor: “Wrth chwarae o gwmpas yn sgwennu pethau dros y blynyddoedd, o ni wastod yn meddwl does dim digon o gerddoriaeth ddawns yn Gymraeg.

“Ma na lot o stwff yn y Gymraeg sydd yn wych ond o ni ddim really yn clywed pethau o ni fel arfer yn gwrando ar yn Saesneg.

“Yn enwedig pethau cwier hefyd. Os ti’n mynd i clwb cwier, y fath o gerddoriaeth ti’n clywed, bydde fe’n wych os ti’n gallu cal rhwybeth fel hyn ond yn Gymraeg.”

Mae Bendigaydfran yn dod yn wreiddiol o Ferthyr Tydfil ond bellach yn byw yng Nghaerdydd ac wedi cyfansoddi can newydd Ewropop.

Cafodd ei sengl gyntaf, Pwy sy’n crio nawr? ei rhyddhau ddydd Gwener.

Ychwanegodd: “Ma na pethau rili gwych yn bodoli mas na dim ond yn y brif ffrwd fel petai.

“Hoffwn i weld mwy o gynrychiolaeth LGBT hefyd…caneuon sy’n berthnasol i’r gymuned LGBT Cymraeg.”

Y llynedd fe wnaeth Bendigaydfran ryddau’r gân Blas y Diafol ar y cyd gyda’r band Brigyn. Pwy sy’n crio nawr? yw ei sengl gyntaf fel artist unigol.

'Swreal'

Dywedodd bod rhyddhau'r sengl yn brofiad sy’n “anodd dychmygu”.

“Ma pobl go iawn yn gwrando ar gerddoriaeth fi. Rhywbeth dwi wedi sgwennu a chyfansoddi fy hun.

“Mae’n swreal!”

Mae’r artist hefyd yn creu fideos i TikTok a bellach mae dros 441,000 o ddilynwyr ganddo.

Gobaith yr artist yw bod pobl yn gwrando ar y gân “wrth i nhw paratoi i fynd ar night out, mynd am drincs gyda ffrindiau nhw, cael parti neu mynd i’r gym.

“Y fath o gân ma pobl yn teimlo’n dda yn gwrando arno fe. Dyna’r fath o gerddoriaeth dwi’n hoffi.

“Ma digon o bethau yn neud ni’n drist a o ni eisiau gwneud rhywbeth bach mwy neis” meddai.   

‘Ail-hawlio’r pwer’

Esboniodd hefyd sut mae dod allan o berthynas tocsig yn gallu gwneud i bobl “deimlo’n gryf.”

Dyna yw neges y gân, yn ôl Bendigaydfran.

Ychwanegodd: “Un diwrnod, ti’n codi a ti’n meddwl 't'mod beth, dwi di cael digon a ma rhywbeth yn clicio, dwi’n haeddu gwell'. A wedyn pwy sy’n crio nawr, nhw achos chi di ail-hawlio’r pwer ynot ti dy hun.

“Mae gen ti dy ffrindiau, a ti’n meddwl sai angen unrhywun i deimlo’n hapus”, meddai.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.