Trefnwyr Glastonbury'n cadarnhau y bydd yr Arctic Monkeys yn perfformio yno nos Wener
Mae trefnwyr gŵyl Glastonbury wedi cadarnhau y bydd yr Arctic Monkeys yn chwarae yno nos Wener wedi'r cyfan.
Redd pryderon os fyddai’r band o Sheffield wedi gallu perfformio eu set ar lwyfan y Pyramid nos Wener ar ôl iddyn nhw dynnu allan o gyngerdd yn Nulyn nos Fercher.
Roedd hynny ar ôl i’r prif leisydd Alex Turner gael dolur yn ei wddf oedd yn ei atal rhag canu.
Ond mewn cyfweliad ar Radio 2 ddydd Gwener, fe wnaeth cyd-drefnydd Glastonbury, Emily Eavis, gadarnhau y bydd y band yn chwarae.
Mewn sgwrs ar raglen radio Zoe Ball, dywedodd Eavis: “Mae o ymlaen.”
Gyda'r ŵyl yn parhau tan ddydd Sul, mae miloedd o bobl bellach ar y safle, sydd wedi ei wasgaru ar hyd 900 erw o dir.
Ymhlith yr artistiaid Cymreig a Chymraeg a fydd yn perfformio eleni, mae Al Lewis, Adwaith, Gwenno a'r Manic Street Preachers.
Yn chwarae ym mhrif set y gwŷl nos Sadwrn bydd y band Guns N’ Roses, gyda Syr Elton John yn brif artist nos Sul, wrth iddo nodi diwedd ei daith ffarwel yn y Deyrnas Unedig.