Newyddion S4C

Pen Llŷn: Ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn 'argyfwng ail dai'

Newyddion S4C 29/05/2021

Pen Llŷn: Ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn 'argyfwng ail dai'

Mae ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adra wedi trefnu protest er mwyn codi ymwybyddiaeth ar gyfer "argyfwng ail gartrefi" ym Mhen Llŷn. 

Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddweud y byddai'n addo cyflwyno mesurau i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa a helpu pobl leol i brynu tai eu hunain yn yr ardal. 

Fe gychwynnodd y protest ger Capel Bethania ym Mhistyll fore Sadwrn a theithio i ardaloedd eraill yn Llŷn megis Morfa Nefyn, Tudweiliog ac Aberdaron. Nod y brotest oedd galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn i "gymunedau oroesi".

Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur, fod y sefyllfa yn "drychinebus".

“Wel yn syml 'da ni jyst yn cael yn prisio allan o'n cymunedau'n llwyr," dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

"Cymunedau lle da'ch chi 'di cael eich magu yn y nhw ac mae'r drws 'di gau'n glep yn eich wyneb chi.

"'Da chi methu cael tŷ yn eich bro. Bro 'da chi 'di ymlynu a hi ers eich geni, ac mae gennoch chi gariad tuag ati. A rŵan s'am posib i chi gael tŷ yno.  Wel mae hynny'n drychinebus 'de.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.