Pen Llŷn: Ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn 'argyfwng ail dai'
Mae ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adra wedi trefnu protest er mwyn codi ymwybyddiaeth ar gyfer "argyfwng ail gartrefi" ym Mhen Llŷn.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddweud y byddai'n addo cyflwyno mesurau i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa a helpu pobl leol i brynu tai eu hunain yn yr ardal.
Fe gychwynnodd y protest ger Capel Bethania ym Mhistyll fore Sadwrn a theithio i ardaloedd eraill yn Llŷn megis Morfa Nefyn, Tudweiliog ac Aberdaron. Nod y brotest oedd galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn i "gymunedau oroesi".
Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur, fod y sefyllfa yn "hollol anfoesol".
"Does dim hawl gan gymdeithasau i barhau fel rhai byw i genedlaethau'r dyfodol," dywedodd.
"Mae hunanoldeb unigolion a'r farchnad rydd wedi mynd mor eithafol nes eu bod yn gormesu cymunedau. Mae rhywun yn gallu cael tŷ ychwanegol yn ddi-rwystr ar draul cymuned; gall pobl brynu tai i'w defnyddio o dro i dro fel teganau ar draul pobl leol.
"Mae'r peth yn hollol anfoesol. Rydym yn gweld ein cymunedau yn edwino a'n iaith yn prysur ddiflannu o'r tir.
"Petai'r Llywodraeth ond yn dirnad ac yn gweld yr angen am weithredu pendant i'w gwarchod. Petaent ond yn gweld, yna, mi ddylent deimlo dyletswydd i weithredu gan osod rheoliadau fyddai'n gwneud gwahaniaeth.
"O gyfarfod efo Mark Drakeford teimlwn ei fod yn ddyn egwyddorol, ystyriol a diffuant iawn. O'i arbenigedd ym maes cymdeithaseg rydym yn gobeithio y bydd yn gweld y gwir am y sefyllfa bresennol ac yn gweithredu yn ddiymdroi i sicrhau cymunedau iach a hyfyw i genedlaethau'r dyfodol."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.