Dyn yn pleidio’n ddieuog i lofruddio dosbarthwr parseli yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi pledio’n ddieuog i lofruddio dosbarthwr parseli yng Nghaerdydd.
Ymddangosodd Christopher Elgifari, 31, o flaen Llys y Goron Merthyr ddydd Iau wedi ei gyhuddo o ladd Mark Lang.
Honnir ei fod wedi ei lofruddio drwy ei fwrw gyda'i fan ddosbarthu ei hun.
Bu farw Mark Lang, 54 oed, o Gyncoed yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar 15 Ebrill.
Bythefnos ynghynt roedd wedi dioddef anafiadau difrifol ar Stryd y Gogledd, Caerdydd.
Roedd yn dosbarthu parseli ar Heol Laytonia yn ardal Cathays y brifddinas ar 28 Mawrth pan ddioddefodd yr anafiadau.
Gwadodd Christopher Elgifari o Gwrt yr Esgydd Aberdâr lofruddio Christopher Elgifari a dwyn o’i fan.
Dywedodd Erlynydd y Goron David Elias KC fod dyddiad yr achos llys wedi ei osod ar gyfer 25 Medi ac y byddai yn parhau am bedair wythnos.
Cafodd Christopher Elgifari ei gadw yn y ddalfa.
Yn dilyn ei farwolaeth fe roddodd ei bartner deyrnged iddo gan ddweud: “Mae’n anodd rhoi mewn geiriau sut mae unrhyw un ohonom ni’n teimlo,” meddai.
“Diolch i’r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau i’w achub, y bobl oedd yno a geisiodd ddod o hyd i gymorth, a’r holl staff yn y Mynydd Bychan a sicrhaodd fod ei ddyddiau olaf yn gyfforddus.
“Drwy gydol hyn oll mae wedi bod yn gysur gweld cymaint o gariad a chefnogaeth gan gymaint o bobl oedd yn adnabod Mark.
“Roedd Mark yn ddyn da, gyda llawer o gariad i'w roi. Bu farw yn oriau mân y bore wedi'i amgylchynu gan deulu. Yn dawel. Yn gyfforddus. Bydd colled fawr ar ei ôl.”