Cyfieithiad o'r nofel Llyfr Glas Nebo yn cipio gwobr fawreddog
Cyfieithiad o'r nofel Llyfr Glas Nebo yn cipio gwobr fawreddog
Mae cyfieithiad o'r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi ennill Medal Yoto Carnegie eleni.
'The Blue Book of Nebo' yw'r cyfieithiad cyntaf i ennill y wobr erioed.
Wedi ei sefydlu bron 90 o flynyddoedd yn ôl, Yoto Carnegie yw'r gwobrau hynaf ym myd llyfrau plant a phobl ifanc yn y DU, ac maent yn dathlu llwyddiant ym maes ysgrifennu a darlunio.
Dywedodd Manon Steffan Ros wrth Newyddion S4C bod y wobr yn "golygu cymaint" iddi.
"O ni’n arfer gweld enw’r wobr ar gloriau fy hoff lyfrau pan o ni’n ifanc, felly ma meddwl am Llyfr Glas Nebo, bod o’n un o’r llyfrau yna rwan - dwi just wrth fy modd.
"A dyma di’r cyfieithiad cyntaf i ennill y wobr, ma hwnna wir yn fy nghyffwrdd i", meddai.
Codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg
Ychwanegodd yr awdures: "Mae o mor mor anrhydeddus achos ma' darllen cyfiethiadau yn bwysig. Yn enwedig, dwi’m meddwl o fewn y byd Saesneg ei iaith dydy pobl ddim yn tueddu darllen cyfieithiadau.
"Mae’n rhoi persbectif reit wahanol i chi. A hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg gobeithio".
Mae'r gyfrol Gymraeg wrieddiol eisoes wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd yn 2018 a Llyfr y Flwyddyn yn 2019.
Ysgrifennodd yr awdures y llyfr i bobl ifanc.
"Dyna oedd y bwriad, dyna ydy nghariad cynta i" meddai.
Mae'r nofel wedi'i gosod ym mhentref Nebo yng Ngwynedd mewn cyfnod ôl-apocalyptaidd.
Mwynhau cyfieithu
Ychwanegodd Manon Steffan Ros: "Nes i gyfieithu Llyfr Glas Nebo achos dwi’n mwynhau cyfieithu yn greadigol. A pan nes i ddechrau o ni wir ddim yn disgwyl sa hi’n cael ei chyhoeddi.
"O ni’m yn gwybod os fasa rhywun hefo diddordeb i’w chyhoeddi hi yn Saesneg. Felly yr unig reswm o ni isio neud o oedd i’m mhleser fy hun i ddweud y gwir.
"Mae’r sylw ma a’r ffaith bod pobl yn mwynhau, ma hwnna’n syndod i mi. Mae’n beth ofnadwy, ofnadwy o braf."
Yn ôl yr awdures, mae cyfieithu nofelau i'r Saesneg yn gallu bod yn fuddiol i'r iaith Gymraeg er nad oes "traddodiad bywiog iawn o gyfieithu.
"Da ni mor lwcus ma gennon ni ddiwylliant cyhoeddi mor ddifyr a gwych a dwi’m yn meddwl bod pobl tu allan i Gymru yn gwybod hwnna."
Yn y feirniadaeth, cafodd y nofel ei disgrifio fel un “dorcalonnus”, gyda “chyfoethog o dreftadaeth Gymreig.”