Giatiau Glastonbury wedi agor wrth i filoedd heidio i Wlad yr Haf
Mae giatiau Gŵyl Glastonbury 2023 wedi eu hagor yn swyddogol gan y cyd drefnydd Emily Eavis, gyda phobl ar flaen y rhes wedi dechrau o'u cartrefi yn ystod oriau mân y bore.
Gyda'r ŵyl yn parhau tan ddydd Sul, bydd miloedd yn glanio yn Glastonbury ddydd Mercher, gan wasgaru ar hyd 900 erw o dir.
Ymhlith yr artistiaid Cymreig a Chymraeg a fydd yn perfformio eleni, mae Al Lewis, Adwaith, Gwenno a'r Manic Street Preachers.
Nid yn anarferol wrth gwrs, ond mae nifer wedi pacio eu si-bŵts neu welingtons ar gyfer yr ŵyl. Mae'n bosibl y bydd y tywydd gwlyb dros nos yn amharu ar sefyllfa'r traffig, ond mae disgwyl iddi glirio yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Amheuon
Arctic Monkeys fydd y prif artistiaid nos Wener, a hynny am y trydydd tro, wedi iddyn nhw gloi'r noson yn 2007 a 2013 hefyd.
Ond mae mymryn o amheuon am berfformiad y band roc, wedi iddyn nhw ganslo ei sioe yn Nulyn oedd i fod i'w gynnal nos Fercher, am fod y canwr Alex Turner wedi colli ei lais.
Guns N’ Roses fydd y prif artistiaid nos Sadwrn, ac mae pob un o'r prif artistiaid ar y llwyfan pyramid yn ddynion.
Dywedodd y cyd drefnydd Emily Eavis ei bod wedi ceisio cael balans rhwng dynion a menywod. Eleni, roedd ganddyn nhw ddynes fel prif artist, meddai, ond doedd dim modd iddi berfformio bellach.
Syr Elton John’s fydd y prif artist nos Sul, wrth iddo nodi diwedd ei daith ffarwel yn y Deyrnas Unedig.