Tudur Owen yn defnyddio’r we i rybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg ‘ddiflannu’

20/06/2023
S4C

Mae Tudur Owen yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithsol i addysgu ac i rybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg “ddiflannu” mewn cyfres o ffilmiau byrion.

Yn ôl y comedïwrmae’r enwau Cymraeg yma yn perthyn i bawb – gan gynnwys pobl sy’n byw y tu allan i Gymru.

Mae’r chwe ffilm fer wedi’u creu fel rhan o gyfres boblogaidd Cynefin, ac yn cael eu cyhoeddi yn dilyn dadlau am benderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i beidio â defnyddio eu henw Saesneg mwyach.

Mae Tudur Owen yn gobeithio sbarduno pobl i “drysori a defnyddio’r enwau Cymraeg”.

Bydd yn cyflwyno cyfoeth hanes enw chwe lleoliad gan gynnwys y Bannau, Llandysul, Y Gogarth yn Llandudno, Betws-y-Coed a Phenychain ger Pwllheli.

Er mwyn lledaenu'r neges am bwysigrwydd enwau Cymraeg mor eang â phosib mae Tudur Owen hefyd wedi paratoi fersiynau o’r eitemau yn Saesneg.

Dywedodd Tudur Owen: “Dwi’n angerddol am enwau llefydd Cymraeg. Dwi’n meddwl bod nhw’n bwysig gan eu bod nhw nid yn unig yn deutha’ ni lle ydan ni, ond hefyd pwy ydan ni. Mae ‘na wastad yn amlach na pheidio stori dda tu ôl i enwau Cymraeg - mae ‘na ganrifoedd o hanes i ddechrau efo hi.

“Mae’n bwysig cadw gafael arnyn nhw achos ‘da ni’n gweld nhw’n diflannu ac yn gweld nhw fel rhyw fath o symptom o’r bygythiad sydd yna i gymdeithas fel mae pethau’n newid.

“Dwi’n trio peidio pregethu’n ormodol ond ein henwau ni ydyn nhw, ac maen nhw’n perthyn i bawb - gan gynnwys pobl tu allan i Gymru. Maen nhw’n rhan o hanes Ynysoedd Prydain wedi’r cyfan - yn rhywbeth i’w trysori a’u gwarchod.

“Be dwi’n obeithio ydi y bydd pobl yn cael y wybodaeth o’r ffilmiau bach yma ac wedyn yn medru gwneud penderfyniad dros eu hunain, achos dwi’n meddwl bod hi’n gamgymeriad i draethu a deddfu a gorfodi pobl i’w defnyddio. Mae’n rhaid i bobl eu defnyddio nhw o’u gwirfodd, a gwneud y penderfyniad wedi cael y wybodaeth i gyd.”

'Pwnc llosg'

Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C: “Mae’r ddadl dros y defnydd o enwau llefydd Cymraeg wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, ac felly mae Tudur, sydd mor angerddol am y pwnc yn un delfrydol i gyflwyno’r pecynnau.

“Mae hefyd yn bwysig bod cynnwys o’r math yma ar gael i’r di-Gymraeg gan fod ganddo gyfraniad mor werthfawr i’w wneud i ehangu dealltwriaeth o darddiad ein henwau llefydd. Y gobaith yw, drwy gyfrwng ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, y bydd yr eitemau hyn yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib.”

Mae’r chwe ffilm fer wedi cael eu cynhyrchu i S4C gan Rondo ac fe fydd yr eitemau ar gael i’w gwylio ar blatfformau YouTube, Facebook, Twitter a TikTok S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.