Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar ddydd Sadwrn, 29 Mai, o Gymru a thu hwnt.
Rhybudd i bobl fod yn ofalus dros Ŵyl y Banc - Newyddion S4C
Mae Parc Cenedlaethol Eryri, ynghyd â'r heddlu a chynghorau lleol wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn annog pobl i gynllunio'u hymweliadau'n ofalus. Daw hyn wrth i berchennog caffi ar Yr Wyddfa ddweud fod ymwelwyr yn dal i ddangos diffyg parch llwyr tuag at Eryri.
Pwysau cynyddol ar Matt Hancock dros bolisïau cartrefi gofal - The Guardian
Mae'r Gweinidog Iechyd, Matt Hancock, o dan bwysau cynyddol dros fesurau a oedd mewn lle mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig. Mae dynes a gollodd ei thad o Covid-19 mewn cartref gofal, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i gyhoeddi dogfennau a fyddai'n dangos ei asesiadau risg ynghylch â phrofi cleifion â Covid-19 cyn iddyn nhw ddychwelyd i'r cartrefi gofal.
Gemau mawr i Abertawe a Chasnewydd yn Wembley - Newyddion S4C
Fe fydd Yr Elyrch yn wynebu Brentford mewn gêm dyngedfennol yn Wembley ddydd Sadwrn. Byddai buddugoliaeth yn gweld Abertawe yn dychwelyd i'r Uwchgynghrair, degawd yn ôl bron i'r diwrnod ers iddyn nhw ennill dyrchafiad i'r gynghrair am y tro cyntaf - y tîm cyntaf erioed o Gymru i wneud hynny. Fe fydd Casnewydd yn teithio i Wembley i chwarae'n erbyn Morecambe ddydd Llun, ar ôl sicrhau eu lle yn y rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Jonny Clayton yn ennill Uwch Gynghrair Dartiau'r PDC - Golwg360
Jonny Clayton yw pencampwr Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC. Fe gurodd e Jose de Sousa o Bortiwgal o 11-5 yn rownd derfynol ym Milton Keynes nos Wener, gan sicrhau y byddai’n cael cystadlu eto'r flwyddyn nesaf. Dyma’r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth, a’r tro cyntaf hefyd i’r chwaraewr wnaeth orffen yn bedwerydd yn y tabl ei hennill hi.
Galw ar bobl i osgoi llyn ym Mhowys o achos algâu
Mae Cyngor Sir Powys wedi argymell i bobl osgoi gweithgareddau dŵr yn Llyn Syfaddan (Llyn Llangors) yn dilyn canfyddiad algâu gwyrddlas yno. Mae'r algâu, sydd yn tyfu'n naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd a moroedd, yn cynhyrchu tocsinau sydd yn gallu achosi salwch megis poenau stumog, chwydu a chur yn pen os bydd rhywun yn eu llyncu.