Newyddion S4C

Rhybudd i bobl fod yn ofalus dros Ŵyl y Banc

Newyddion S4C 29/05/2021

Rhybudd i bobl fod yn ofalus dros Ŵyl y Banc

Mae rhybudd i bobl droedio'n ofalus ar ddechrau un o benwythnosau prysuraf Cymru.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, ynghyd â'r heddlu a chynghorau lleol wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn annog pobl i gynllunio'u hymweliadau'n ofalus.

Daw hyn wrth i berchennog caffi ar Yr Wyddfa ddweud wrth Newyddion S4C fod ymwelwyr yn dal i ddangos diffyg parch llwyr tuag at Eryri.

Dywedodd Alwena Jones, perchennog caffi ‘Hanner Ffordd’ yr Wyddfa: “Be sy'n digwydd ma' nhw'n dod fel teulu wedyn ma'r plant yn gweld be ma' nhw'n neud wedyn ma'r plentyn hwnnw'n meddwl bod iawn idda fo neud jyst gadael sbwriel de.

"Ma' raid i ddysgu nhw o rwla, dwn i'm sut gyflwr sy' ar i gartrefi nhw adra dwi'm yn gwybod.

"Ma'n bechod, ma'n bechod achos ma'r amgylchedd ma' nhw di dod i mewn mor brydferth a nhw sydd yn i sbwylio hi 'de", ychwanegodd.

Image
Hanner Ffordd Wyddfa
Caffi 'Hanner Ffordd' ar yr Wyddfa.

'Ddim yn broblem newydd'

Yn ôl un o swyddogion y parc, mae sbwriel yn broblem yn yr ardal ac wedi gwaethygu ers i gyfyngiadau Covid-19 fod mewn grym.

Dywedodd Dana Williams, Swyddog Twristiaeth Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Eryri: “Ma' sbwriel di bod yn broblem, dydy o ddim yn broblem newydd i'r parc, a 'da ni wedi gweld cynnydd mewn nifer sbwriel dros flwyddyn ddiwethaf.

"Ond hefyd 'da ni wedi gweld nifer y bobl sy'n dod o’r newydd i'r parc, pobl sydd ddim fel arfer yn ymweld â chefn gwlad ag ella sydd ddim mor gyfarwydd â'r cod cefn gwlad, a hefyd ddim yn gwybod beth i ddisgwyl wrth ymweld â'r parc, er enghraifft bo 'na llai o finiau o gwmpas i gael gwared â gwastraff.

Yn ddiweddar, mae'r parc hefyd wedi lansio arolwg yn holi pobl pam eu bod yn gadael sbwriel ar ôl.

“'Da ni di cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i greu'r arolwg i ofyn y cwestiynau iawn i bobl,  a 'da ni di neud yr arolwg yn anhysbys hefyd er mwyn rhoi cyfle i bobl allu ateb y cwestiynau yn onest", medd Ms Williams.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe ofynnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i unrhyw un sy'n ymweld â Chymru i gymryd prawf Covid-19 cyflym cyn teithio.

Roedd Mr Drakeford yn arbennig o awyddus i bobl o'r ardaloedd hynny o ogledd Lloegr lle mae cynnydd wedi bod yn y nifer o achosion o Covid-19 i gael prawf.

Y gred yw bod yr amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India wedi arwain at gynnydd mewn achosion o'r feirws yn ardaloedd Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.