Newyddion S4C

Galw ar bobl i osgoi llyn ym Mhowys o achos algâu

Llyn llangors

Mae Cyngor Sir Powys wedi argymell i bobl osgoi gweithgareddau dŵr yn Llyn Syfaddan (Llyn Llangors) yn dilyn canfyddiad algâu gwyrddlas yno. 

Mae'r algâu gwyrddlas (seibanofacteria) yn digwydd yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd a moroedd ac ni ellir eu tynnu na'u trin. Maen nhw'n prifio mewn tywydd cynnes ac yn debygol o fynd a dod drwy gydol tymor yr haf.

Mae'r algâu, sydd yn tyfu'n naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd a moroedd, yn cynhyrchu tocsinau sydd yn gallu achosi salwch megis poenau stumog, chwydu a chur yn pen os bydd rhywun yn eu llyncu. Gall yr algâu weithiau achosi salwch mwy difrifol fel effeithiau niweidiol ar yr iau a'r system nerfol.

Yn sgil hyn, mae'r Cyngor wedi argymell i bobl beidio â nofio yn y dŵr, gan gynnwys osgoi bwyta pysgod sydd yn cael eu dal yno a gadael i anifeiliaid anwes ddod i gyswllt â dŵr y llyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys:  "Dylai unrhyw un sydd wedi dod i gyswllt â dŵr sy'n cynnwys algâu gwyrddlas gael cawod gyda dŵr ffres yn syth.

"Dylai unrhyw un sydd wedi dod i gyswllt â dŵr dan effaith algâu ac sydd wedi mynd yn sâl gael sylw.

"I gael mwy o gymorth a chyngor cysylltwch â Thîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Powys ar 0845 602 7030."

Llun: Cyngor Sir Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.