Gemau mawr i Abertawe a Chasnewydd yn Wembley
29/05/2021
Gemau mawr i Abertawe a Chasnewydd yn Wembley
Fe fydd Yr Elyrch yn wynebu Brentford mewn gêm dyngedfennol yn Wembley ddydd Sadwrn.
Byddai buddugoliaeth yn gweld Abertawe yn dychwelyd i'r Uwchgynghrair, degawd yn ôl bron i'r diwrnod ers iddyn nhw ennill dyrchafiad i'r gynghrair am y tro cyntaf - y tîm cyntaf erioed o Gymru i wneud hynny.
Y tymor diwethaf, roedd Abertawe yn agos iawn i'r ffeinal ond cawsant eu trechu gan Brentford dros ddau gymal yn y gêm gyn-derfynol.
Fe fydd Casnewydd yn teithio i Wembley i chwarae yn erbyn Morecambe ddydd Llun, ar ôl sicrhau eu lle yn y rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans