'Rhagfarn yn erbyn cenhedlaeth y 'bluen eira' ddim yn gywir'

ITV Cymru
Alix Price-Hutchinson

Dyw'r rhagfarn sydd yn bodoli yn erbyn pobl ifanc sydd yn cael eu disgrifio fel aelodau o genhedlaeth y 'bluen eira' ('snowflakes') ddim yn gywir, yn ôl cyn-fyfyriwr sydd yn ddiwaith.

Mae Alix Price-Hutchinson, sydd yn 24 oed ac yn dod o Abertawe, yn anghytuno gyda’r farn fod cenhedlaeth ‘Gen Z’ yn "ddiog".

“Mae’r syniad bod ein cenhedlaeth ni yn ddiog yn fy ngwneud i’n grac,” meddai Alix Price-Hutchinson wrth ITV Cymru. 

“Dyw hynna ddim yn wir, a dyw e ddim yn adlewyrchu ein realiti ni. Mae gymaint ohonom ni sydd allan o waith yn trio mor galed ac yn gwneud popeth rydym yn gallu, ond does dim byd ar gael.”

Ansicrwydd economaidd

Mae’r Athro Peter Fonagy, sy’n arwain adolygiad ar gyfer Llywodraeth y DU, hefyd wedi gwrthod y syniad o ‘genhedlaeth y bluen eira’, gan ddweud  fod pobl ifanc yn wynebu heriau difrifol mewn amgylchedd llawer anos na’r un a wynebodd ef yn ifanc.

Yn ôl yr Athro Fonagy, mae’n “anoddach bod yn ifanc” erbyn hyn.

Mae ei adolygiad yn edrych ar ba mor gyffredin yw cyflyrau iechyd meddwl, ADHD ac awtistiaeth, a’r cymorth sydd ar gael.

Mae’r adroddiad, sydd yn ymchwilio i'r cynnydd mewn diagnosis anhwylderau iechyd meddwl ac ADHD, hefyd yn gwrthod y syniad o’r “genhedlaeth pluen eira".

Mae Alix wedi bod yn chwilio am waith ers dros flwyddyn, heb lwyddiant:

"Mae gen i ddwy radd o’r brifysgol, wyth mlynedd o brofiad yn gweithio mewn gwasanaeth cwsmeriaid, a dw’i methu dod o hyd i ddim byd," meddai.

“Dwi wedi cymryd cyrsiau ar lein a dosbarthiadau nos i drio cael cymwysterau ychwanegol i roi ar fy CV, ond does dim byd wedi gweithio.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi ymgeisio ar gyfer tua 1,500 o swyddi, ac ond wedi llwyddo i gael tua 10 cyfweliad. Mae hi mor anodd i gyrraedd y cam cyntaf yna hyd yn oed.”

Image
Elsa Torres, sylfaenydd Family Pathways
Elsa Torres, sylfaenydd Family Pathways

Yn ôl amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid oedd 981,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn y DU mewn gwaith, addysg na hyfforddiant rhwng Ebrill a Mehefin 2026.

Roedd hynny 30,000, neu tua 3%, yn uwch na’r un cyfnod y llynedd, ond 30,000 yn is na’r chwarter blaenorol.

“Mae llawer o fy ffrindiau i yn yr un sefyllfa,” ychwanegodd Alix. 

“Mae rhai ohonynt wedi cael ychydig o lwyddiant, ond mae’r rhan fwyaf o bobl dwi’n adnabod yn rhoi oriau o ymdrech i mewn i drio ffeindio swydd.”

Yn gynharach eleni, rhyddhawyd adroddiad yn ymchwilio i pam fod bron i filiwn o bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig ddim mewn addysg, hyfforddiant neu swydd. 

Dywedodd awdur yr adroddiad, Alan Milburn, bod “storm berffaith” o heriau wedi cyfrannu at y sefyllfa, gan gynnwys heriau o fewn y byd addysg, effaith Covid ac amlygrwydd AI.

Yn ei ganfyddiadau a gyhoeddwyd ym mis Mai, dywedodd Mr Milburn nad oedd y syniad fod Gen Z “ddim ishe gweithio” yn gywir.

“Y broblem yw, i ran fwyaf o bobl ifanc, mae’r cyfleoedd yn lleihau, nid yn tyfu,” meddai.

Effaith AI

Yn ôl gwefan swyddi Adzuna, roedd nifer y swyddi gwag i raddedigion a gofnododd yn y DU ym mis Gorffennaf 45.6% yn is na blwyddyn ynghynt.

Dywed Alix fod AI wedi cael effaith uniongyrchol ar ei brofiad o waith.

“Fe lwyddais i ffeindio swydd rhan amser mewn canolfan alwadau am ychydig o fisoedd. Ond yna cafodd nifer ohonom ni eu diswyddo ar ôl iddyn nhw gyflwyno modeli AI a wnaeth gymryd ein lle ni," meddai.

“Dwi yn poeni yn fawr am yr effaith fydd AI yn parhau i gael ar y farchnad swyddi. Mae fe yn fygythiad mawr, yn enwedig i’r maes creadigol.” 

'Perspectif newydd'

Yn ôl Elsa Torres, sylfaenydd Family Pathway, mae prosesau recriwtio cymhleth yn gallu atal pobl niwrowahanol rhag dod o hyd i swydd.

Mae’r sefydliad yn gweithio i gefnogi pobl ifanc niwrowahanol a’u teuluoedd.

“Mae pobl â niwrowahaniaeth yn gallu cynnig persbectif newydd ac unigryw i’r gweithle. Ond er mwyn i hynny ddigwydd mae rhaid i’r gweithle ail feddwl eu prosesau recriwtio, er mwyn sicrhau fod gan bawb chware teg,” meddai. 

“Pan mae pobl yn cael mynediad i’r gweithle, maen nhw yn dysgu sgiliau hanfodol, ac yn gallu teimlo fel eu bod nhw yn rhan o rywbeth ac yn gwneud gwahaniaeth.”

Yn ôl yr ystadegau mae 45% o bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant neu swydd yn byw gydag anabledd.

“Yn aml mae angen addasiadau er mwyn sicrhau fod pobl yn llwyddo i’r gorau o’u gallu. Mae angen i gyflogwyr ddechrau buddsoddi yn ein pobl ifanc, a rhoi cyfleoedd iddyn nhw i adeiladu eu sgiliau a’u hyder,” ychwanegodd Ms Torres. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.