Jonny Clayton yn ennill Uwch Gynghrair Dartiau'r PDC
29/05/2021
Jonny Clayton yw pencampwr Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC.
Fe gurodd e Jose de Sousa o Bortiwgal o 11-5 yn rownd derfynol ym Milton Keynes nos Wener, gan sicrhau y byddai’n cael cystadlu eto'r flwyddyn nesaf.
Dyma’r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth, a’r tro cyntaf hefyd i’r chwaraewr wnaeth orffen yn bedwerydd yn y tabl ei hennill hi.
Yn ogystal â’r tlws, mae e wedi ennill £250,000 bedwar mis yn unig ar ôl ennill y Meistri.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Sven Mandel