Pwysau cynyddol ar Matt Hancock dros bolisïau cartrefi gofal
29/05/2021
Mae'r Gweinidog Iechyd, Matt Hancock, o dan bwysau cynyddol dros fesurau a oedd mewn lle mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig.
Yn ôl The Guardian, mae dynes a gollodd ei thad o Covid-19 mewn cartref gofal, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i gyhoeddi dogfennau a fyddai'n dangos ei asesiadau risg ynghylch â phrofi cleifion â Covid-19 cyn iddyn nhw ddychwelyd i'r cartrefi gofal.
Daw hyn yn sgil honiadau Dominic Cummings y dylai Mr Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo "am ddweud celwydd" wrth i'r llywodraeth ddelio gyda'r pandemig.
Mae Matt Hancock wedi gwadu'r honiadau, gan ddweud byddai modd profi cleifion â Covid-19 gyda'r cymhwyster cywir.