Teuluoedd yn cyhoeddi manylion angladd dau fachgen a fu farw yn Nhrelái

20/06/2023
Gwylnos Trelai

Bydd angladd ar gyfer dau fachgen a fu farw yn Nhrelái fis diwethaf yn cael ei gynnal ar 6 Gorffennaf, yn ôl cyhoeddiad gan eu teuluoedd. 

Fe fydd y gwasanaeth ar gyfer Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, yn cael ei gynnal yn Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái.

Bydd y ddau ffrind gorau yn cael eu claddu ym Mynwent y Gorllewin yng Nghaerdydd a bydd teulu a ffrindiau yn ymgasglu yn Arena Chwaraeon y Fro wedi’r gwasanaeth. 

Bu farw’r ddau fachgen mewn gwrthdrawiad ddydd Llun, 22 Mai ac yn yr oriau canlynol, bu anhrefn ar strydoedd gerllaw. 

Mae teuluoedd y bechgyn wedi gofyn i unigolion sicrhau na chaiff unrhyw feiciau modur, beiciau trydan neu sgwteri eu gyrru i’r angladd.

Bu farw’r bechgyn mewn gwrthdrawiad tra ar feic trydan wedi iddyn nhw gael eu dilyn gan gerbyd yr heddlu ychydig ynghynt. 

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu bellach wedi cyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol i ddau heddwas mewn cysylltiad â'u hymchwiliad i farwolaethau’r ddau fachgen.

Mae’r heddlu bellach wedi arestio 20 o bobl mewn cyswllt â’r anhrefn yn Nhrelái fis diwethaf. 

Yn ogystal, cafodd dau berson eu harestio a chafodd dros 20 o gerbydau eu meddiannu gan yr heddlu yn dilyn taith i gofio am y bechgyn, ddydd Sadwrn, 10 Mehefin. 

‘Gwisgwch rywbeth glas’ 

Wrth gyhoeddi manylion yr angladdau ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ffrind y teuluoedd: “Dwi wedi cael fy ngofyn i roi gwybod i deulu a ffrindiau y bydd angladdau Kyrees a Harvey yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, 6 Gorffennaf, 13:00 yn Eglwys yr Atgyfodiad, ac yna ei man gorffwys ym Mynwent y Gorllewin am 14:30. 

“Plîs, gwisgwch ddillad cyfforddus. Yr oll rydym yn ei ofyn yw eich bod yn gwisgo rhywbeth glas. 

“Gadewn i ni ddathlu bywydau'r ddau fachgen ifanc yma a dod at ein gilydd fel un, er cof amdanyn nhw, ac i ddangos iddyn nhw faint rydym yn eu caru.”

Mewn ail neges ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd: “Mae Nadine Evans wedi gofyn imi roi gwybod bod y teuluoedd yn gwahodd pawb a oedd yn adnabod Harvey a Kyrees i ddathlu eu bywydau yn Arena Chwaraeon y Fro, Cambria House, CF11 8TW Caerdydd ar Orffennaf 6.

“Mae’r teuluoedd wedi gofyn nad oes unrhyw feiciau modur, beiciau trydan neu sgwteri yn bresennol yn ystod yr angladd oherwydd byddai'n rhaid rhoi gwybod i’r heddlu a dyma'r peth olaf mae’r teuluoedd ei eisiau.” 

Dywedodd Ysgol Gynradd Windsor Clive ger Trelái y bydd yn cau am y diwrnod ar ôl cynnal trafodaethau gyda Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a’r eglwys.

Mewn llythyr dywedodd Kim Fisher, Pennaeth Windsor Clive: “Yn dilyn cyfarfodydd gyda sawl sefydliad gan gynnwys yr heddlu, Cyngor Caerdydd a’r eglwys, mae penderfyniad ar y cyd i gau Windsor Clive ar ddydd Iau 6 Gorffennaf i bob disgybl ac aelodau o staff. 

“Er nad yw cau’r ysgol yn ddelfrydol, mae’r penderfyniad yma wedi cael ei wneud er lles yr ysgol a’r gymuned leol yn ystod cyfnod emosiynol iawn i nifer o bobl,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.