
Ergyd arall i Gymru ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Twrci
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm pêl-droed Cymru ar ôl colli 2-0 oddi cartref yn erbyn Twrci nos Lun.
Ar ôl colled annisgwyl yn erbyn Armenia nos Wener, fe wnaeth gobeithion y Cymry o gyrraedd Euro 2024 dderbyn ergyd arall ar ôl colli am yr eildro mewn pedwar diwrnod yn eu grŵp rhagbrofol.
Mi fydd y canlyniadau hynod siomedig yn cynyddu’r pwysau ar ysgwyddau rheolwr Cymru, Rob Page, wedi un fuddugoliaeth yn 12 gêm ddiwethaf y tîm.
Yng nghrochan Stadiwm Samsun, y tîm cartref ddechreuodd ar y droed flaen ac fe wnaethon nhw reoli’r meddiant am gyfnodau hir yn ystod yr hanner cyntaf.
Fe gafodd Cymru gyfle yn y chweched munud ar ôl llwyddo i ryddhau Brennan Johnson mewn gwrth ymosodiad, ond fe darodd ei ergyd mewn i ochr y rhwyd.
Roedd Twrci yn credu eu bod wedi mynd ar y blaen ar ôl naw munud, ar ôl i amddiffynnwr Cymru Chris Mepham gyfeirio'r bêl fewn i rwyd ei hun ar ôl croesiad peryglus; ond ar ôl cyfnod hir o ystyried gan y VAR, penderfynwyd nad oedd y gôl yn un dilys ar sail camsefyll yn gynharach yn y symudiad – mawr i ryddhad Mepham.

Roedd y gêm yn fratiog ar adegau, gyda Thwrci methu â manteisio ar eu meddiant, a Chymru yn cael hi’n anodd rhoi unrhyw ymosodiad o safon at ei gilydd.
Ond daeth trobwynt y gêm ar ôl 41 munud, wedi i Joe Morrell dderbyn cerdyn coch.
Wrth gystadlu am y bêl tu allan i gwrt cosbi Twrci, fe wnaeth y chwaraewr canol cae chysylltu â choes Ferdi Kadioglu gyda’i stydiau, gan adael y dyfarnwr heb ddewis ond ei anfon o’r maes.
Fe arbedodd Danny Ward ergydion gan Cengiz Under ac Orkun Kokcu wrth i Dwrci gynyddu’r pwysau ar ddeg dyn Cymru yn ystod amser ychwanegol yr hanner cyntaf, ond di-sgôr oedd y gêm ar hanner amser.
Ton ar ôl Ton
Daeth Ben Cabango ymlaen fel eilydd ar ddechrau’r ail hanner yn lle Johnson, oedd wedi bod yn brwydro gydag anaf.
Cafodd y Cymry ddechreuad calonogol i’r ail hanner, gyda Dan James yn gweithio’n hynod o galed i roi amddiffyn Twrci dan bwysau gyda’i gyflymdra.

Bu bron i Harry Wilson rhoi Cymru ar y blaen ar ôl 48 munud gyda chic rydd odidog o 30 llathen, ond fe lwyddodd y golwr Mert Gunok atal y bel rhag hedfan i gongl uchaf y rhwyd.
Wrth i Dwrci barhau i wthio Cymru yn ôl, fe wnaethon nhw ennill cic o’r smotyn wedi 63 munud o chwarae, ar ôl i oroesiad gan Kadioglu daro penelin y capten, Aaron Ramsey.
Daeth Ward i’r adwy i arbed cic Hakan Calhanoglu yn wych, gan hedfan i’w dde i atal ymdrech capten Twrci.
A thro VAR oedd hi i achub Cymru unwaith eto ar ôl 69 munud, wedi i Umut Nayir lawio’r bêl cyn sgorio heibio Ward – ond ni chafodd y gôl ei ganiatáu.
Tri munud yn ddiweddarach, fe lwyddodd Twrci i sgorio gôl ddilys o’r diwedd, gyda Nayir yn rhwydo gyda pheniad pwerus, er gwaethaf ymdrechion gorau Ward i’w gadw allan.
GÔL | Ergyd arbennig i'r gornel uchaf gan Arda Güler ⚽
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) June 19, 2023
81' Twrci 2-0 Cymru
🇹🇷🏴| #Euro2024Qualifiers
YouTube: https://t.co/6AZEJwGXYI pic.twitter.com/sFlmyGFBte
Fe wnaeth Twrci ddyblu eu mantais ar 80 munud ar ôl i’r eilydd Arda Guler crymanu’r bêl yn hyfryd i gongl uchaf y rhwyd o du allan i’r cwrt cosbi.
Roedd hynny yn ddigon i Dwrci hawlio'r triphwynt, gan adael Cymru yn waglaw.
Maen nhw nawr yn y pedwerydd safle yng Ngrŵp D gyda phedwar pwynt, ar ôl chwarae mewn hanner o'u gemau rhagbrofol.