Cyfnod o wres 'eithafol' yn y môr oddi ar arfordir Prydain
Mae cyfnod o wres “eithafol” ledled y DU wedi achosi cynnydd yn nhymheredd y môr, a hynny wedi effeithio ar arfordir Cymru yn ogystal.
Yn sgil tymereddau uchel y mis diwethaf, mae tymheredd y môr yn rhai mannau o’r DU wedi codi hyd at 5C yn uwch na sy’n arferol ar gyfer y cyfnod yma'r flwyddyn.
Yn ôl Gweinyddiaeth y Cefnfor a’r Atmosffer Cenedlaethol UDA (NOAA), mae sawl ardal oddi ar Iwerddon a’r Alban yn profi gwres “eithafol,” a rheini’n cael eu cydnabod fel rhybuddion ‘Categori 4.’
Yn y cyfamser, mae rhan o Fae Ceredigion oddi ar arfordir gogleddol Sir Benfro wedi cyrraedd categori lefel 3.
Dywedodd Dr Thomas Smith sy’n Athro Cyswllt mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol LSE Llundain ei fod yn “ddigwyddiad prin”.
Roedd hynny wedi arwain at y tywydd stormus dros y dyddiau diwethaf, meddai.
Ond mae pryder hefyd am effaith y môr cynnes ar fywyd gwyllt, gyda rhai gwyddonwyr wedi rhybuddio y gallai’r cynnydd achosi marwolaeth “torfol” rhai rhywogaethau.
Bu posibilrwydd hefyd o achosi tyfiant i alga gellir bod yn niweidiol i fywyd gwyllt y môr.
“Gallai'r tywydd poeth effeithio ar faint o bysgod sy yn yr ardal, pa bysgod sydd yn lle, a chael effaith hirdymor ar yr ecosystem oddi ar arfordir Prydain,” meddai Dr Chloe Brimicombe o Brifysgol Graz yn Awstria.
Mae dŵr yn cymryd fwy o amser i oeri o’i gymharu â’r awyr, a hynny’n golygu y gallai cynnydd yn nhymheredd y môr gael effaith hir dymor.
Prif lun o Gwm Soden, arfordir Ceredigion (Jeremy Bolwell/Wikimedia Commons).
