Newyddion S4C

Yr Urdd yn ychwanegu camp newydd at eu gemau stryd

17/06/2023

Yr Urdd yn ychwanegu camp newydd at eu gemau stryd

Mae’r Urdd wedi ychwanegu camp newydd at eu gemau stryd – sef bowldro.

Mae bowldro yn fath o ddringo rhydd sy'n cael ei berfformio ar greigiau go iawn neu arftiffisial heb ddefnyddio rhaffau na harneisiau.

Roedd cystadleuaeth bowldro'r mudiad yn Flashpoint Caerdydd ddydd Gwener yn agored i ddringwyr newydd a phrofiadol o Gymru benbaladr.

Dywedodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, fod ychwanegu’r gamp yn ymgais i ddenu pobl newydd.

“Mae’r Urdd i bawb rwan, a ‘dy ni’n trio newid ein strwythyr ni a’n cystadleuthau ni i roi profiad newydd i bobl newydd,” meddai.

“Pwrpas y Gemau Stryd ydy ein bod ni’n rhoi cyfle mewn chwaraeon newydd i bobl ifanc gystadlu a chymryd rhan.

“Dyna be’ sy’n neis am heddiw - bydd pob lefel yma heddiw yn cael y profiad o fowldro.” 

Image
Gemau Stryd yr Urdd
Gemau Stryd yr Urdd.

Dywedodd Dylan Pitman, cystadleuwr 12 oed, bod y gystadleuaeth bowldro a’r gemau stryd yn gyfle i gwrdd â chymuned o bobl sy’n debyg iddo - “profiad fyddai byth ‘di cael o’r ysgol”. 

Mae data gan Gymdeithas Waliau Dringo Prydain yn dangos bod y gamp yn tyfu 15-20% y flwyddyn. 

Dywedodd Zoe Wood, sy’n ddringwr profiadol a gyflwynodd y gystadleuaeth ddydd Gwener, ei fod yn gyfle i’w dangos i genhedlaeth newydd.

“Ella fod pobl wedi clywed am dringo, ond heb gael y cyfle i ddod a trio fe allan - mae lot o blant yma heddiw sydd heb wedi dringo o’r blaen,” meddai.

Dechreuodd Gemau Stryd yr Urdd y llynedd, gan gynnwys cystadlaethau fel BMX steil rhydd, sglefrfyrddio cynhwysol a dawns stryd. 

‘Rhatach’

Dywedodd Eben Muse o’r Cyngor Mynydda Prydeinig, un o gefnogwyr y gystadleuaeth, y byddai ychwanegu bowldro i Gemau Stryd yr Urdd yn cynnig cyfle i bobl ifanc o ardaloedd trefol a dinesig i gystadlu yn y gemau. 

Image
Eban Muse
Eben Muse

“Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’n estyn mewn i ardaloedd bach fwy urban, llefydd dinesig sydd ddim yn ymwneud a llefydd fel Glan Llyn,” meddai.

“Mae’n cynnig rhywbeth grêt iddyn nhw fel ffeindio cymunedau a chymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n lot o hwyl.

“‘Dy ni wedi gallu cynnig [bowldro] yn rhad iawn, mae na gost i bob dim dyddiau ‘ma a mae’r cystadleuaeth ddim ond yn costi £5, felly mae’n gadael i mwy nei lai unrhywun i ddod i’r gemau. 

“Mae’n rhatach i ddod i gystadlu yn y gemau na mae e i ddringo ar diwrnod arferol, felly mae’n grêt i roi’r cyfle i bawb.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.