Newyddion S4C

Disgwyl penodi Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru

16/06/2023
S4C

Mae disgwyl mai Rhun ap Iorwerth fydd yn cael ei benodi yn arweinydd newydd Plaid Cymru ddydd Gwener.  

Fe fydd enw arweinydd nesaf Plaid Cymru yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol am 12:00 yng Nghaerdydd.

Gyda'r cyfnod enwebu'n cau fore dydd Gwener a dim ond Mr ap Iorwerth wedi cynnig ei enw yn y ras hyd yma, y tebyg yw mai aelod Senedd Cymru dros Fôn fydd yn arwain y blaid i'r dyfodol, yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price o'r swydd ym mis Mai.

Roedd Adam Price wrth y llyw am bedair blynedd cyn ymddiswyddo.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad dywedodd ei fod yn bwysig iddo gydnabod "cyd-fethiant" y blaid yn dilyn beirniadaeth o'r modd y mae wedi ymateb i honiadau diweddar o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw.

Mewn datganiad ar y pryd dywedodd Mr Price fod ei “ymrwymiad i’n gweledigaeth o genedl sydd wedi’i thrawsnewid mor gryf ag erioed”.

Ychwanegodd nad oedd ei “egni dros newid wedi ei bylu”.

Pwy yw Rhun ap Iorwerth?

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg.

Bu Mr ap Iorwerth yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997.

Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun ap Iorwerth wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd.

Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grwp Plaid Cymru yn ystod y Pumed Senedd.

Mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.