Heddlu'n apelio wedi ymosodiad difrifol ym Mhontypridd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ym Mhontypridd ddydd Gwener.
Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r ymosod a ddigwyddodd ger yr orsaf drenau am tua 11:30 fore Gwener.
Cafodd dyn 25 oed anafiadau i'w goesau yn ystod y digwyddiad ac mae'n parhau yn yr ysbyty gyda'r hyn gaiff ei ddisgrifio'n anafiadau arwynebol.
Mae swyddogion yn dymuno siarad gydag unrhyw un a fedrai fod yn dyst i'r digwyddiad neu a oedd ger yr orsaf ar adeg yr ymosodiad.
Mae swyddogion yn gwirio camerâu cylch cyfyng ac yn cyd-weithio'n agos â Heddlu Trafnidiaeth Cymru.
Dywed yr heddlu fod rhubanau'r heddlu yn dal i fod yn y maes parcio tu allan i'r orsaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Emma Hampton: "Rydym yn parhau gyda'n ymholiadau eang i adnabod y sawl sy'n gyfrifol, ac mae swyddogion lleol wedi cynyddu patrolau yn ac o gwmpas yr ardal. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn lle cyhoeddus iawn ar adeg pan fyddai'r dref wedi bod yn brysur - rydym angen i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu".
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth i gysylltu ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod *185919 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.