Marathon Eryri yn penderfynu defnyddio enw Cymraeg yn unig o hyn allan

13/06/2023
marathon eryri

Mae Marathon Eryri wedi cyhoeddi y bydd yr enw Cymraeg yn unig yn cael ei ddefnyddio ar y ras o hyn ymlaen.

Ni fydd yr enw Saesneg 'Snowdonia Marathon' yn cael ei ddefnyddio yn dilyn y penderfyniad.

Mewn neges ar Facebook dywedodd y trefnwyr bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn dilyn penderfyniad Parc Cenedlaethol Eryri i beidio defnyddio'r enw Saesneg 'Eryri National Park' yn y dyfodol.

"Yn dilyn y penderfyniad diweddar i gyfeirio at ein Parc Cenedlaethol wrth ei enw Cymraeg yn unig, byddwn bellach yn cael ein hadnabod wrth ein henw Cymraeg yn unig."

Mae'r newyddion wedi cael ei groesawu gan nifer, gydag un yn dweud "dwi ddim yn gwybod sut i ddweud yr enw ond mae'n wych gweld y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo fel hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.