Ryan Giggs yn wynebu achos llys ym mis Ionawr

Huw Evans Agency
Bydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, yn wynebu achos llys ym mis Ionawr.
Mae'r cyn bêl-droediwr a rheolwr Cymru wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au ac ymosod ar ddynes arall yn ei 20au mewn lleoliad yn Salford fis Tachwedd diwethaf.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad o orfodaeth neu reolaeth dros unigolyn.
Fe wnaeth ymddangos o flaen Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener, meddai Sky Sports News.
Mae wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans