Newyddion S4C

Liz Saville Roberts yn 'pryderu am aelodau o'r teulu' ar ôl bygythiadau ar-lein

Y Byd ar Bedwar 12/06/2023

Liz Saville Roberts yn 'pryderu am aelodau o'r teulu' ar ôl bygythiadau ar-lein

Mae 43% o wleidyddion Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn bygythiad i ladd tra wedi eu hethol.

Un o'r rheiny sydd wedi profi achosion o aflonyddu, trais a bygythiad i ladd, yw’r Aelod Seneddol ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts. 

“Mae gennai rôl gyhoeddus ac yn ystod y cyfnod dwi di bod yn Aelod Seneddol, mae ‘na ddynes iau na fi wedi lladd, sef Jo Cox ac wedyn o’r blaid Ceidwadol, David Amess. Dwi’n ofni mae’r hyn a yrrodd a llofruddion Jo Cox a David Amess yr un mor bosib rwan.”

Mewn arolwg gan Y Byd ar Bedwar, fe wnaeth y rhaglen ofyn i bob Aelod o'r Senedd a phob Aelod Seneddol yng Nghymru gyfres o gwestiynau yn ymwneud â'u profiad o aflonyddu yn y swydd. 

O'r rhai a ymatebodd yr arolwg, dywedodd 95% eu bod wedi derbyn neges fygythiol neu sarhaus trwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost, ffôn neu wyneb yn wyneb. 

Dywedodd 80% eu bod nhw wedi teimlo dan fygythiad tra’n gwneud y swydd.

Yn 2020, cafodd David Lowe ei garcharu am anfon e-bost bygythiol at Liz Saville Roberts o gyfrif ffug gan ddweud y byddai’r gwleidydd yn cael ei saethu.

Mae rhan o’r e-bost yn darllen:  “Mae’n rhaid ichi gadw eich wyneb annymunol o dan y parapet neu risgio ei gael ei chwythu i ffwrdd fel y parasit arall yn Batley.” 

Mae’r e-bost yn cyfeirio at farwolaeth Jo Cox - yr AS gafodd ei thrywanu a'i saethu i farwolaeth saith mlynedd yn ôl yr wythnos hon.  

“Mae’n ddigon hawdd i ddychmygu beth fyddai ymateb y teulu, does yna neb eisiau i aelod o’r teulu fod yn byw dan fygythiad.”

“Dwi hefyd yn pryderu am aelodau o’m teulu pan fyddaf i ffwrdd. Dwi’n fwy ofn dwi meddwl dros bobl eraill fedrai ddim edrych ar ei holau nhw,” meddai’r AS. 

Mae Ms Saville Roberts yn dweud bod rhaid i bob Aelod Seneddol gael sawl mesur diogelwch yn y tŷ gan gynnwys CCTV a botwm panig. 

“Mae yna larwm petai rywun yn torri mewn ac os mae’r larwm yn canu mae’n codi larwm syth bin gyda’r heddlu. Mae 'na gamerâu cylch cyfyng yma hefyd.”

Image
YBAB
Y botwm panig sydd yn nhy Liz Saville Roberts 
Llun: ITV Cymru Wales 

Roedd £4.4 miliwn wedi eu gwario ar ddiogelwch ASau yn San Steffan yn 2022. 

Mewn cais rhyddid gwybodaeth, daeth i'r amlwg bod gwariant diogelwch i Aelodau'r Senedd a'u staff yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 1000% yn ystod y tair blynedd ddiwethaf o £17,500 yn 2020/21 i £210,000 yn 2022/23.

Image
Jane Dodds
Jane Dodds

Un o Aelodau’r Senedd sydd wedi derbyn negeseuon a phrofiadau sarhaus ar-lein yw Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS. 

Dywedodd : “Mae yna dal pethau yn dod ataf, yn enwedig ar Facebook a Twitter: Off with her head, traitor, you should lock her up. “

“Dwi’n cael negeseuon ofnadwy trwy Twitter, ma nhw’n dod trwy laptops ac ar y ffon, ac mae’n bwysig bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod y negeseuon yn cael ei thargedu tuag at wleidyddion a phawb i ddweud y gwir. 

Mae'r Mesur Diogelwch Ar-Lein (Online Safety Bill) sydd yn cael ei drafod yn Nhy’r Arglwyddi ar hyn o bryd yn edrych ar yr hyn sydd angen ei newid mewn deddfwriaeth i ymdrin ag ymddygiad digidol pobl.

Ond mae Liz Saville Roberts yn credu bydd achosion o fygwth yn dal i ddigwydd yn sgil y ddeddfwriaeth hon.

“Dwi yn fwy na derbyn bod rhyddid barn yn bwysig ond wi wirioneddol yn credu mai rhyddid barn yn morffio mewn i rywbeth llawer mwy peryglus na hynny. Dwi ddim yn meddwl bod yr Online Safety Bill wedi mynd i’r afael ar hynny o gwbl.”

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “O dan ein deddfwriaeth ddiogelwch ar-lein, bydd angen i gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon, gan gynnwys ymddygiad bygythiol a chynnwys sy’n achosi ofn neu’n pryfocio trais.”

“Bydd cwmnïau sy’n methu â chydymffurfio â’r dyletswyddau yn wynebu camau gorfodol gan Ofcom, ac yn yr achosion mwyaf difrifol bydd gwefannau yn cael eu rhwystro yn y DU.”

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C/Clic a BBC iPlayer

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.