Newyddion S4C

Carcharu dyn am daro dau berson gyda char yng Nghaerdydd

malefant st.jpg

Mae dyn 34 oed wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd ar ôl taro dau gerddwr, gan gynnwys person yn ei arddegau, gyda char yng Nghaerdydd. 

Fe darodd Johnathan Newbury ddau o bobl "ar gyflymder" gyda char du yn ardal Cathays o'r brifddinas ar ôl cael mewn i ffrae dros eiddo rhent Airbnb ym mis Gorffennaf 2024. 

Fe dderbyniodd Ryan Jones, un o'r dioddefwyr, anafiadau i'w belfis a'i droed dde. 

Roedd y dyn arall, a oedd yn ei arddegau ar adeg y digwyddiad, yn anymwybodol wrth gyrraedd yr ysbyty, gan fynd yn anghofus ac roedd ganddo boen yn ei asennau. 

Cafwyd Newbury a dyn arall yn ddieuog o geisio llofruddio gan reithgor ym mis Mawrth, ond roedd Newbury yn euog o achosi a cheisio achosi niwed corfforol difrifol.

Cafwyd Newbury hefyd yn euog o gael llafn yn ei feddiant. 

Cafodd ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr ddydd Llun. 

Dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins y bydd Newbury yn treulio wyth mlynedd yn y carchar a dwy flynedd ar drwydded estynedig. 

Pan y bydd yn cael ei ryddhau, bydd hefyd yn cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.