Newyddion S4C

Sage Todz ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd polisi iaith y Brifwyl

Sage Todz ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd polisi iaith y Brifwyl

Fydd un o artisiaid hip-hop amlycaf yr iaith Gymraeg ddim yn perfformio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni, oherwydd polisi iaith y Brifwyl.

Mae Sage Todz o Benygroes yng Ngwynedd yn honni bod yr Eisteddfod yn teimlo fod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Daeth y rapiwr i amlygrwydd y llynedd wedi iddo ailweithio fresiwn o ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan gyda help Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae o wedi siarad droeon am bwysigrwydd diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg iddo.

Fe gafodd Sage Todz ei holi ar wefan gymdeithasol a fyddai’n fodlon gwneud newidiadau i’w berformiad ar gyfer yr Eisteddfod, ei ateb oedd bod ei ganeuon yn gynnyrch gorffenedig, a na fyddai o’n eu newid.

Mae’n pwysleisio hefyd nad oedd o’n protestio, ond yn hytrach am roi gwybod i bobl pam na fyddai yno.

Mewn datganiad, fe dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae canu’n ddwyieithog ac yn Saesneg yn greiddiol i egwyddorion Sage Todz, yn union fel mae ein rheol iaith ni’n greiddiol i ni fel gŵyl a sefydliad.

"Cynigiwyd nifer o gyfleoedd iddo berfformio yn y Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, gan gynnwys cymryd rhan flaenllaw mewn digwyddiad mawr i gloi’r ŵyl a oedd yn gomisiwn i greu caneuon newydd yn y Gymraeg. 

"Trafodwyd ein rheol iaith yn helaeth gyda Sage Todz, ac rydyn ni’n parchu’r ffaith ei fod yn artist dwyieithog, ac mai ei benderfyniad oedd cadw at ei egwyddorion a pharhau i greu cerddoriaeth ddwyieithog a Saesneg.

“Rydyn ni’n falch o gynnig cyfleoedd i artistiaid newydd, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae gennym ni nifer o brosiectau sy’n helpu i ddatblygu artistiaid newydd, gan weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn a chynnig llwyfan iddyn nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod. 

"Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda artistiaid o bob genre i ddatblygu eu hyder i ddefnyddio ein hiaith a chynnig y llwyfan perfformio cyntaf iddyn nhw yn y Gymraeg.

“Bu’r tîm yn trafod nifer o gyfleoedd amlwg gyda Sage Todz dros y misoedd diwethaf, gan ein bod yn awyddus i roi llwyfan iddo yn yr Eisteddfod eleni.  Y tro hwn, ni fu modd i ni gytuno ar ddefnydd iaith, ac rydyn ni’n parchu’r ffaith ei fod yn artist dwyieithog a Saesneg.”

Mae sawl achlysur wedi bod yn y gorffennol lle roedd yn rhaid i fandiau gydymffurfio â rheol iaith yr Eisteddfod. Ym mis Mai 1996, roedd Super Furry Animals newydd ryddhau Fuzzy Logic, eu halbwm Saesneg gyntaf.

Ym mis Awst o’r flwyddyn honno, fe ymddangosodd SFA i chwarae ar faes yr Eistedfod Genedlaethol yn Llandeilo.

Fe aeth y grwp ati i argraffu geiriau eu caneuon yn Saesneg a’u dosbarthu i’r gynulleidfa i ganu eu caneuon, tra bod aelodau’r band yn chwibianu wrth berfformio ar y llwyfan.  

Mae Bardd Plant Cymru 2023, Nia Morais, (sydd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Medi) yn cwestiynu safbwynt yr Eisteddfod:

"Mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn meddwl yn ddwyieithog, yn ysgrifennu yn ddwyieithog, yn siarad yn ddwyieithog, ac yn symud rhwng Cymraeg a Saesneg.

"Mae hwnna yn ran fawr o’n bywydau ni a ma’ Sage Todz di neud lot i ddiwylliant Cymraeg. Os dyna ffordd ma’ fe’n mynegi ei hunan dwi’m yn credu bod hawl gyda ni ‘limitio’ hwnna”.

Dywedodd Joe Healy, dysgwr y flwyddyn 2022 wrth Newyddion S4C: “Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rywbeth i fi sydd yn ddrws i fewn i’r iaith.

"Mae’n anodd, fi dal yn teimlo’n ‘conflicted’ achos fi’n teimlo i’r gynulleidfa. Ma’n siomedig iawn bo ni ddim yn cael gweld e’n yr Eisteddfod. Ar yr ochr arall ti ddim yn gallu disgwyl i’r Eisteddfod Genedlaethol newid y rheol iaith i neb”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.